Mae un o gyflwynwyr radio amlycaf Cymru wedi ymuno â’r drafodaeth ynghylch cefnu ar Snowdon fel enw ar Yr Wyddfa.
Ddydd Mercher wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bleidleisio yn erbyn cynnig i gefnu ar yr enwau, Snowdon a Snowdonia National Park.
Dadl aelodau’r bwrdd yw bod ymchwiliad i’r mater eisoes ar droed.
Yn sgil y cyfarfod mae trafodaeth fywiog wedi cael ei thanio, a bellach mae dros fil o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am gefnu ar yr enwau Saesneg.
Mae’r digrifwr a chyflwynydd, Tudur Owen, bellach wedi ymuno â’r drafodaeth, ac mi rannodd yntau ei farn ar raglen World at One, BBC Radio 4, heddiw (29 Ebrill).
“Gall yr awdurdodau chwarae eu rhan trwy wneud yn siŵr mae Eryri yw’r enw amlycaf ar bob arwydd, ac mewn testunau ysgrifenedig,” meddai.
“Mi ddylai fod yn enw swyddogol. Byddai hynny’n helpu cryn dipyn wrth sicrhau bod yr enwau yn goroesi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mewn clip ohono’n annerch y cyhoedd (clip a rannodd â’r rhaglen) dywedodd: “Buasem ni’n hoffi’n fawr pe tasach chi’n stopio galw fo’n Snowdon, ac yn defnyddio’r enw gwreiddiol, Yr Wyddfa.”
‘Fatha rhywbeth gan Walt Disney’
Yn ystod ei ymddangosiad ar y rhaglen holodd Sarah Montague, y cyflwynydd, a ddylai hithau ymwrthod â defnyddio’r enw Saesneg am Eryri.
Dywedodd Tudur Owen bod yn well ganddo’r enw Cymraeg, ac aeth ati i ddisgrifio agweddau lleol tuag at yr enw Saesneg.
“Dydy pobol leol ddim yn hoffi Snowdonia o gwbl,” meddai. “Yn enwedig y rheiny sydd yn siarad Cymraeg. A hynny am ei bod yn disodli’r enw Cymraeg gwreiddiol, sef Eryri.
“Rydan ni’n credu ei fod o’n dod o enw Rhufeinig hen iawn sy’n golygu ‘y man uchel’. Mae hynny’n gwneud synnwyr. Mae Snowdonia yn beth diweddar – o’r 50 mlynedd diwethaf o bosib.
“Ac mae o’n swnio fatha rhywbeth buasa’ Walt Disney wedi’i ddychmygu.”
Yn ddiweddarach dywedodd Sarah Montague bod ynganu ‘Yr Wyddfa’ yn peri “her” i bobol ddi-gymraeg, ac mi rodd gynnig ar ei ynganu.
“Wnes di ei ynganu o’n brydferth,” meddai Tudur Owen. “A dyna’r peth. Wnaeth o gymryd ambell gynnig. A nawr rwyt ti’n ei ynganu o fatha person leol. Roedd hynna’n brydferth.
“Rhowch gynnig arni. Gofynnwch i bobol. Gwnewch damaid bach o waith ymchwil. Dydy o ddim yn cymryd llawer.
“A pheidiwch â phoeni eich bod yn cam-ynganu oherwydd mi fyddwn ni, fel rheol, mor falch eich bod yn rhoi cynnig arni, yn defnyddio ein henwau. Mi fuasem ni mor hapus am hynny.”
Coming up on @BBCWorldatOne we head to Yr Wyddfa with @tudur pic.twitter.com/YSsAF0HTlk
— Sarah Montague (@Sarah_Montague) April 29, 2021
Newid “naturiol”
Er gwaetha’ ei angerdd, yn siarad ar y radio dywedodd Tudur Owen ei fod yn gwrthwynebu deddfu ar y mater. Rhaid i’r newid ddigwydd yn naturiol, meddai.
“Mae gen i broblem â phobol sydd eisiau deddfu. Ac sydd eisiau gorfodi pobol i ddefnyddio enwau Cymraeg,” meddai. “Dw i’n credu bod yn rhaid iddo fod yn wirfoddol.
“Unwaith bydd pobol yn sylwi ar bwysigrwydd yr enwau Cymreig yma, a’r straeon diddorol tu ôl iddyn nhw, mi fyddan nhw eisiau eu defnyddio. Ac mi fydd yn digwydd yn naturiol.”