Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn mynnu nad oes “dim i’w weld yma” wrth iddo addo cydymffurfio ag ymchwiliad y Comisiwn Etholiadol i’r gwaith adnewyddu yn 10 Stryd Downing.
Mae’r Comisiwn wedi dweud bod “yna le i gredu bod i amau bod trosedd neu droseddau wedi’u cyflawni”.
Bydd yr ymchwiliad yn ceisio sefydlu pwy dalodd am y gwaith i ddechrau ac a gafodd unrhyw rodd ei ddatgan yn briodol.
Daw hyn yn sgil awgrymiadau bod y Prif Weinidog wedi cael benthyciad gan roddwyr i’r Blaid Geidwadol i gwblhau’r gwaith.
Gall ymchwilwyr fynnu dogfennau a gwybodaeth, a gallent o bosibl ofyn am gyfweliad gyda’r Prif Weinidog fel rhan o’r broses.
Yn ystod ymweliad ag ysgol yn Llundain, dywedodd Boris Johnson y byddai’n “cydymffurfio â beth bynnag maen nhw ei eisiau, a dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth i’w weld yma, na phoeni amdano.”
Mynnodd hefyd y bydd y cynghorydd safonau gweinidogol newydd, yr Arglwydd Geidt, yn gwneud “gwaith rhagorol” yn ei adolygiad ar wahân i weld a ddatganwyd unrhyw roddion yn briodol.
Beirniadodd Llafur y trefniant gan fod y Prif Weinidog yn parhau i fod yn “feirniad eithaf” y cod gweinidogol, sy’n golygu bod Boris Johnson “i bob pwrpas yn marcio ei waith cartref ei hun”.
Dadleuodd Boris Johnson, mewn llythyr at gadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, yr Arglwydd Evans, na all ac na fyddai’n dymuno rhoi’r gorau i’r pŵer.
“Fy nghyfrifoldeb i yn unig yw’r cyfrifoldeb hanfodol hwnnw ac, fel gwleidydd etholedig, un yr wyf yn atebol amdano yn y pen draw i’r etholwyr,” meddai.
“Ni ddylai’r Prif Weinidog allu rhwystro ymchwiliadau”
Cafodd yr Arglwydd Geidt ei benodi i’r swydd ddydd Mercher (Ebrill 28), bum mis ar ôl ymddiswyddiad ei ragflaenydd Syr Alex Allan.
Ymddiswyddodd Syr Alex Allan mewn ymateb i Boris Johnson yn cefnogi Priti Patel er gwaethaf ymchwiliad a nododd fod ymddygiad yr Ysgrifennydd Cartref “yn gyfystyr ag ymddygiad y gellir ei ddisgrifio fel bwlio”.
Nid oes gan yr Arglwydd Geidt y pŵer i lansio ei ymchwiliadau ei hun a chadarnhaodd Rhif 10 mai’r Prif Weinidog yw’r dyfarnwr terfynol o hyd o ran unrhyw achosion o dorri amodau.
Dywedodd canghellor cysgodol y Blaid Lafur, Rachel Reeves: “Ni all y Prif Weinidog fod yn feirniad ac yn rheithgor ar ymddygiad ei weinidogion – nac yn wir ei ymddygiad ei hun.
“Ni ddylai’r Prif Weinidog allu rhwystro ymchwiliadau i’w weinidogion na’i hun o ran torri’r cod gweinidogol.”
Mae Syr Keir Starmer wedi annog Boris Johnson i ateb cwestiwn syml – pwy dalodd am adnewyddu ei fflat? er mwyn dod a diwedd i’r ffrae am y mater.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, sydd ar ymweliad â Manceinion fel rhan o’r ymgyrch etholiadol, bod y ffrae wedi troi’n “dipyn o ffars”.
Boris Johnson yn mynnu ei fod wedi talu am y gwaith adnewyddu
Mae Boris Johnson yn mynnu mai ef wnaeth dalu am y gwaith adnewyddu ond wedi gwrthod dweud a gafodd fenthyciad gan y Blaid Geidwadol i dalu’r costau.
Fe wnaeth y gwaith gostio hyd at £200,000 yn ôl adroddiadau.
Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi’i dweud yn gyhoeddus ei fod wedi talu “ymlaen llaw ac yn gyfan gwbl ar ei draul ei hun” pan wnaeth ef ail-ailaddurno ei fflat Stryd Downing ei hun y llynedd.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol y bydd ei ymchwiliad yn “penderfynu a yw unrhyw drafodion sy’n ymwneud” â’r gwaith adnewyddu “yn dod o fewn y drefn a reoleiddir gan y comisiwn ac a adroddwyd am gyllid o’r fath yn ôl y gofyn”.
Dywedodd y Blaid Geidwadol y byddai’n “parhau i weithio’n adeiladol” gyda’r comisiwn gan ychwanegu “credwn fod pob rhodd wedi cael ei ddatgan yn dryloyw ac yn gywir”.
Mae prif weinidogion yn cael cyllideb o hyd at £30,000 y flwyddyn i adnewyddu eu fflat yn Stryd Downing, ond mae adroddiadau papur newydd wedi awgrymu bod costau Boris Johnson wedi cynyddu.
Dywedodd yr arglwydd Torïaidd, yr Arglwydd Brownlow, mewn e-bost a ddatgelwyd i’r Daily Mail ei fod yn rhoi rhodd o £58,000 i’r Ceidwadwyr “i dalu am y taliadau y mae’r blaid eisoes wedi’u gwneud ar ran yr ‘Ymddiriedolaeth Stryd Downing’ a fydd yn cael ei ffurfio’n fuan”.