Mae “popeth yn yr awyr” yng Ngogledd Iwerddon yn sgil penderfyniad Arlene Foster i ildio’r awenau, yn ôl ymgyrchydd iaith Wyddeleg.
Wedi tair blynedd o anghydfod mi adferwyd grym yn Stormont yn 2020, ac mi darwyd bargen rhwng y ddwy brif blaid, Sinn Féin a’r DUP (Democratic Ulster Unionists).
Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’ cytunwyd y byddai camau yn cael eu rhoi ar waith i ddyrchafu statws y Wyddeleg (a Sgots Wlster).
Bellach mae Arlene Foster, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ac un o’r ffigyrau oedd ynghlwm â’r ddêl, wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr.
Daeth y cam yn ymateb i fiwtini oddi fewn i’w phlaid, y DUP. Roedd yna gryn anniddigrwydd â’i harweinyddiaeth ac roedd yr addewidion ynghylch y Wyddeleg yn bwydo mewn i hynny.
Ymgyrchydd tros y Wyddeleg yw Dr Liam Andrews, ac mae’n byw yn Belfast. Mae yntau’n derbyn bod gweithgarwch Stormont tros yr iaith – ynghyd â phob dim arall – wedi dod i stop am y tro.
“Mae popeth yn yr awyr ar hyn o bryd,” meddai. “Mae popeth wedi cael ei daflu i’r awyr yn gyfan gwbl gyda bod Arlene Foster nawr ar y ffordd mas.
“Mae popeth arall oedd yn cael ei ystyried yn bwysig – gan gynnwys y Mesur Iaith – maen nhw i gyd fwy neu lai [yn yr awyr] yn awr.
“Mae mis gyda hi – os yw hi’n teimlo fel gwneud hynny – i symud rhai pethau ymlaen,” atega. “Ond y prif beth ar hyn o bryd yw delio gyda’r feirws.
“Os yw hi’n mynd i wneud unrhyw beth o gwbl am Fesur Iaith ac yn y blaen, dyw hynny ddim yn glir.”
Y cwestiwn mawr ar feddyliau’r cyhoedd, yn ôl yr ymgyrchydd yw, a “ydy’r Cynulliad yn mynd i gwympo” ac mae materion eraill – gan gynnwys iaith – “mas trwy’r ffenest”.
Bydd Arlene Foster yn camu i lawr yn Brif Weinidog ddiwedd mis Mehefin, ac mae Dr Liam Andrews yn awgrymu y gallai fynd i’r afael ag ambell fater amhoblogaidd yn ystod ei wythnosau olaf.
Statws y Wyddeleg
Mae’r iaith Wyddeleg yn fater hynod danllyd yng Ngogledd Iwerddon, gydag unoliaethwyr yn cysylltu’r iaith ag achos y cenedlaetholwyr.
Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’ cytunwyd na fyddai yna Ddeddf Iaith Wyddeleg, ond amlinellwyd llu o ymrwymiadau yn ymwneud â’r iaith.
Cytunodd Sinn Féin a’r DUP y byddai Deddf Gogledd Iwerddon 1998 yn cael ei haddasu, ac y byddai llu o bolisïau yn cael eu cyflwyno.
Roedd addewidion i roi statws swyddogol i’r Wyddeleg a Sgots Wlster, ac i sefydlu rôl Comisiynydd Iaith Wyddeleg (tebyg i Gomisiynydd y Gymraeg yng Nghymru).
Hefyd, ymrwymodd y pleidiau i gyflwyno safonau iaith (tebyg i’r safonau yng Nghymru) ac i sefydlu uned gyfieithu oddi fewn i Lywodraeth Gogledd Iwerddon.
Ddechrau’r mis hwn, fe wnaeth mudiad iaith Conradh na Gaeilge danio her gyfreithiol yn erbyn Cangen Weithredol Gogledd Iwerddon.
Ymateb oedd hyn i’r ffaith bod strategaeth iaith Wyddeleg heb ei mabwysiadu, a’r ffaith bod y ddeddfwriaeth a amlinellwyd yn y ddêl heb gael ei gweithredu.
Yr olynwyr
Ag Arlene Foster yn camu o’r neilltu mi fydd y DUP yn awr yn bwrw ati yn awr i ddod o hyd i olynydd iddi.
Roedd ganddi ddwy rôl, ac mae lle i gredu y caiff y swyddi yma eu rhannu rhwng dau berson.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod y Gweinidog Amaeth, Edwin Poots, yn cael ei ystyried yn olynydd iddi yn Brif Weinidog.
Ac mae sïon yn dew mai Syr Jeffrey Donaldson neu Gavin Robinson (mae’r ddau’n Aelodau Seneddol) all ei holynnu yn arweinydd ar y DUP.
Yn ôl Dr Liam Andrews, mae’n ddigon posib y bydd ei holynwyr/holynydd yn fwy ceidwadol eu bydolwg.
“Yr unig ffordd alla’ i ddisgrifio hi yw llai eithafol na phobol eraill,” meddai. “Os edrychwch ar Poots er enghraifft, a phobol eraill.
“Rhaid ystyried nad yw Arlene Foster wedi dod o’r DUP yn wreiddiol. Mi ddaeth hi o’r UUP (Ulster Unionist Party). Mae yna bosibiliad bod rhai o’r UUP ychydig bach yn fwy rhyddfrydol.
“Does dim tystiolaeth o hynny, ond mae’n bosibiliad! A dw i’n meddwl nad yw hi mor geidwadol ac mor asgell dde ag Edwin Poots er enghraifft.”