Mae disgwyl i Arlene Foster ddychwelyd i Stormont heddiw (Ebrill 29) wrth i aelodau’r Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) droi eu sylw at ei holynydd fel arweinydd y blaid a phrif weinidog Gogledd Iwerddon.

Roedd Arlene Foster, 50, wedi cyhoeddi ddoe ei bod yn bwriadu ymddiswyddo yn dilyn ffrae o fewn ei phlaid am ei harweinyddiaeth. Fe fydd yn camu o’i swydd fel arweinydd y DUP ar Fai 28, ac fel prif weinidog ar ddiwedd mis Mehefin.

Mae hi hefyd wedi awgrymu ei bwriad i roi’r gorau i wleidyddiaeth yn gyfan gwbl ar ôl cyhoeddi yn ei datganiad ei bod yn paratoi i “adael y llwyfan gwleidyddol”.

Mae’r sylw bellach wedi troi at bwy fydd yn ei holynu fel arweinydd y DUP a phrif weinidog y llywodraeth ddatganoledig.

Ymhlith yr enwau sy’n cael eu crybwyll fel olynydd mae’r Aelodau Seneddol Syr Jeffrey Donaldson a Gavin Robinson, a gweinidog amaeth Stormont Edwin Poots. Fe allai’r AS Sammy Wilson, ymuno yn y ras hefyd.

Fe ymddiswyddodd Arlene Foster wedi misoedd o wrthdaro o fewn ei phlaid gan arwain at lythyr o ddiffyg hyder yn ei harweinyddiaeth.

Roedd ’na anghydweld am strategaeth Brexit y DUP, gyda nifer o fewn y blaid yn rhoi’r bai ar Arlene Foster am y ffin ym Mor Iwerddon.