Wrth annerch sesiwn ar y cyd o’r Gyngres am y tro cyntaf, mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud bod “America’n codi o’r newydd” ac ar fin goresgyn pandemig y coronafeirws.

Gan edrych i’r dyfodol, anogodd fuddsoddiad o $1.8 triliwn (£1.3 triliwn) mewn plant, teuluoedd ac addysg a fyddai’n trawsnewid rolau’r llywodraeth ym mywyd Americanwyr.

Nododd Joe Biden ei 100 diwrnod cyntaf yn ei swydd wrth i’r genedl ddod allan o gymysgedd o argyfyngau – y pandemig yn bennaf.

“Mae America’n barod i godi o’r newydd. Rydym yn gweithio eto. Breuddwydio eto. Darganfod eto. Arwain y byd eto. Rydym wedi dangos ein hunain i’r byd: dyw America ddim yn rhoi’r ffidil yn y to.

“100 diwrnod yn ôl, roedd tŷ America ar dân. Roedd yn rhaid i ni weithredu.”

Eleni, am y tro cyntaf, roedd dirprwy-Arlywydd benywaidd, Kamala Harris, yn eistedd y tu ôl i’r Arlywydd.

Ac roedd hi wrth ymyl menyw arall, Llefarydd y Tŷ Nancy Pelosi.

“Nid oes yr un Arlywydd erioed wedi dweud y geiriau hynny o’r podiwm hwn, ac mae’n hen bryd,” meddai Joe Biden ar ôl cyflwyno Kamala Harris fel “Madam dirprwy-Arlywydd”.

Dywedodd Joe Biden sut y byddai ei gynlluniau’n rhoi Americanwyr yn ôl mewn gwaith, gan adfer y miliynau o swyddi a gollwyd i’r feirws.

Nododd gynnig ar gyfer dwy flynedd o goleg cymunedol am ddim, $225 biliwn o ddoleri (£162 biliwn) ar gyfer gofal plant a thaliadau misol o $250 (£180) i rieni.

Mae ei syniadau’n targedu gwendidau a ddatgelwyd gan y pandemig, ac mae’n dadlau y bydd adferiad economaidd yn dod o drethu’r cyfoethog i helpu’r dosbarth canol a’r tlawd.

“Dwi’n gallu adrodd i’r genedl: mae America’n symud eto. Yn troi perygl yn bosibilrwydd. Argyfwng i gyfle. Problemau yn gryfder,” meddai.