Mae dyn 63 oed wedi cael dedfyrd o garchar ar ol cael ei ddal gyda chanabis gwerth hyd at £26,000 yn ei dŷ ar ôl syrthio i ddyled i gang cyffuriau o Albania.

Cafodd Douglas Christopher, o Gaerdydd, ei ddal mewn cyrch heddlu ar ei eiddo yn Llanrhymni, ar 27 Chwefror y llynedd.

Daeth swyddogion o hyd i gyfanswm o 4.862kg o ganabis gwerth rhwng £20,080 a £26,080 yn ei gartref.

Darganfuwyd mwy na £50,000 mewn arian parod hefyd.

Ar ôl cael ei arestio dywedodd Douglas Christopher wrth yr heddlu ei fod wedi benthyg £35,000 gan y gang oedd wedi “cymryd rheolaeth dros ei fywyd” a’i orfodi i werthu cyffuriau er mwyn talu ei ddyled.

Clywodd gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd y byddai’r diffynnydd yn danfon canabis ac yn cael cadw £200 o bob bargen.

Mae ganddo ddyled o tua £9,000 o hyd.

Pan ofynnwyd iddo a allai ddarparu enwau aelodau’r gang gwrthododd y diffynnydd wneud dros ofnau am ei ddiogelwch.

Plediodd Douglas Christopher yn euog yn ddiweddarach i feddiannu canabis gyda’r bwriad o gyflenwi ar y sail nad oedd y cyffuriau a’r arian parod yn perthyn iddo ac ni wnaeth unrhyw enillion personol.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Andrew Taylor, wrth y llys fod ei gleient yn dioddef o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).

“Dechreuodd ymwneud â grŵp o bobl Albanaidd nad oeddent yn onest gydag ef – roedd hynny’n ffôl,” meddai.

“Roeddent yn cynnig cymorth iddo ac yn raddol yn dechrau disgwyl pethau ganddo.

“Yn y pen draw sylweddolodd ei fod mewn trafferthion difrifol.”

Cafodd Douglas Christopher ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar wedi’i ohirio am 18 mis a gorchmynnwyd iddo wneud 200 awr o waith di-dâl.