Mae elusen plant yr NSPCC yn dweud eu bod wedi derbyn mwy o alwadau a negeseuon i’w linell gymorth nag erioed yn ystod y pandemig.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021 cysylltwyd â’r llinell gymorth bron i 85,000 o weithiau, cynnydd o 23% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigurau’n adlewyrchu ofnau bod plant, oedd ddim yn gallu mynd i’r ysgol yn ystod y cyfyngiadau clo, yn fwy agored i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso, meddai’r NSPCC.

Dywed y prif weithredwr Syr Peter Wanless fod yn rhaid i gynlluniau adfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â’r niwed y gallai plant fod wedi’i wynebu.

“Rydym wedi bod yn clywed yn uniongyrchol am y pwysau aruthrol y mae teuluoedd wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig a’r hyn sydd wedi effeithio ar blant a phobol ifanc.

“I rai plant mae hyn wedi cynnwys profi camdriniaeth, profedigaeth a niwed arall,” meddai Peter Wanless.

“Mae’n rhaid i’r rhain (cynlluniau adfer y Llywodraeth) fynd y tu hwnt i addysg, a mynd i’r afael â’r niwed y mae rhai wedi’i brofi.”

O’r 85,000 o gysylltiadau â’r llinell gymorth, dywed yr NSPCC fod bron i hanner, 47%, wedi arwain at atgyfeiriad – er enghraifft i’r heddlu neu’r gwasanaethau i blant.

Rhai rhieni “ddim yn ymdopi’n dda â’r straen”

Mae pryderon am iechyd meddwl ac ymddygiad oedolion yn cynnwys camddefnyddio alcohol a sylweddau, cam-drin domestig ac iechyd meddwl rhieni.

Dywedodd un rhiant a gysylltodd â’r llinell gymorth: “Collais fy swydd yn ddiweddar ac nid wyf wedi bod yn ymdopi’n dda â’r straen.

“Rwyf wedi bod yn yfed mwy nag yr oeddwn yn arfer ei wneud ac mae fy ngwraig a fi yn ffraeo bron bob dydd.

“Weithiau rydym yn ffraeo o flaen ein merch ddwyflwydd oed – dw i’n poeni pa effaith mae’n ei chael arni.

“Rwyf i a’m gwraig wedi rhoi cynnig ar gwnsela cyplau yn y gorffennol ond nid oedd yn gweithio i ni.

“Rwyf wir eisiau rheoli fy nhymer felly rwy’n gobeithio y gallwch chi helpu.”