Mae disgwyl i’r Mesur Cam-drin Domestig ddod yn gyfraith heddiw (Dydd Iau, Ebrill 29) gyda’r bwriad o dynhau’r rheolau yn ymwneud ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

Mae’n dilyn ffrae ynglŷn â’r ffordd orau o fonitro pobl sy’n stelcian a cham-drin. Roedd Tŷ’r Arglwyddi yn pwyso am newidiadau cyfreithiol i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu monitro’n awtomatig gan fas data sydd gan yr heddlu a’r gwasanaethau prawf yn barod.

Roedd y Llywodraeth wedi gwrthod hyn, gan ddadlau y byddai newid y rheolau monitro yn fwy effeithiol.

Roedd arglwyddi wedi tynnu’r cais yn ôl ddydd Mawrth gan fod amser yn brin i roi sêl bendith i’r mesur.

Mae’r mesur – sy’n cyfeirio at Gymru a Lloegr yn unig – hefyd yn cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn ogystal â’i gwneud yn drosedd i fygwth rhannu delweddau preifat heb ganiatâd.

“Colli cyfle”

Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi croesawu rhoi cysyniad brenhinol i’r Mesur Cam-drin Domestig, a ddechreuodd bedair blynedd yn ôl, ond yn dweud nad yw’n mynd yn ddigon pell.

“Mae’r Mesur Cam-drin Domestig yn rhoi cyfle gwirioneddol i newid yn sylweddol yr ymateb cenedlaethol i gam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod a merched. Dim ond trwy wrando ar arbenigedd goroeswyr a’r sector arbenigol ehangach yr oedd hyn yn bosibl a rhaid i’r ymgysylltiad hwn barhau i weithredu’r mesurau blaengar hyn.

“Fodd bynnag, rydym o’r farn nad yw’r Bil yn amddiffyn ac yn cefnogi pob goroeswr yn ddigonol ac, felly, yn methu â bod y darn pwysig o ddeddfwriaeth y gallai fod wedi bod. Er gwaethaf ymdrechion gan Dŷ’r Arglwyddi, cefnogaeth gan nifer o ASau ac ymgyrchu diflino gan wasanaethau a goroeswyr arbenigol, cafodd gwelliannau i sicrhau amddiffyniad a chefnogaeth i fudwyr benywaidd eu gwrthod. Rydym wedi tristau gyda’r cyfle hwn a gollwyd i greu llwybrau at ddiogelwch i’r holl oroeswyr a chydymffurfio’n llawn â Chonfensiwn Istanbwl.

“Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn falch o fod wedi bod yn rhan o ddatblygiad y Bil ers ei sefydlu a bydd yn parhau i fonitro ac ymgysylltu â chynnydd ei weithrediad er mwyn sicrhau’r budd mwyaf i oroeswyr yng Nghymru.”