Mae aelod seneddol yn Sir Benfro wedi gwadu bod ganddo fynediad at wybodaeth am newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol, gafodd eu cyhoeddi’n ddiweddar gan y Canghellor Rachel Reeves, yn sgil awgrym fod hynny wedi arwain at warchod ystad ei rieni, sy’n dirfeddianwyr cyfoethog.
Yn y Gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai’n rhaid i ffermwyr dalu’r dreth etifeddiant ar eiddo amaethyddol a thir gwerth dros £1m ar gyfradd o 20%, gyda throthwy o £3m i gyplau sy’n trosglwyddo’u ffermydd.
Mae hyn o gymharu â chyfradd o 40% ar ystadau eraill.
Honiadau
Fel sydd wedi’i adrodd yn eang yn y wasg Brydeinig dros y penwythnos, mae honiadau bod mesurau ariannol wedi’u cymryd gan rieni Henry Tufnell, Aelod Seneddol Canol a De Sir Benfro, i warchod eu hystad 2,000 erw yn y Cotswolds ryw dair wythnos cyn cyhoeddi’r Gyllideb.
Tra bod lle i gredu bod y mesurau hynny’n gwbl gyfreithlon, mae cwestiynau wedi’u gofyn am rannu gwybodaeth fewnol gan Henry Tufnell, yr aelod seneddol cyntaf i’w ethol i sedd newydd Canol a De Sir Benfro yn 2024 ar ôl trechu’r ymgeisydd Ceidwadol Stephen Crabb, yr aelod seneddol hirdymor dros hen sedd Preseli Penfro.
Mae unrhyw awgrym fod yr aelod seneddol wedi gallu rhybuddio’i rieni ymlaen llaw i’w rhoi nhw dan fantais wedi cael ei wadu.
Ymateb
“Fel sydd wedi’i adrodd yn eang, byddai’n ymddangos nad oedd Steve Reed, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, hyd yn oed yn ymwybodol o’r newidiadau penodol i’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes cyn cyhoeddi’r Gyllideb,” meddai llefarydd ar ran Aelod Seneddol Canol a De Sir Benfro.
“Byddai’n anhygoel awgrymu, felly, y byddai gan Henry – sy’n aelod seneddol ar y meinciau cefn – y math yma o wybodaeth cyn cyhoeddi Cyllideb y Canghellor.
“Roedd gweithredoedd rhieni Henry yn seiliedig ar gyngor proffesiynol gan ymgynghorwyr ariannol cymwys, sy’n adlewyrchu rheolaeth ochelgar a chyfrifol dros eu materion teuluol.
“Mae hyn yn rhywbeth y dylai pob ffermwr yn Sir Benfro ei ystyried yn wyneb cyhoeddiadau diweddar y Canghellor, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n barod ar gyfer y tirlun trethi ffermio sy’n esblygu.”