Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £157m o gyllid newydd i helpu i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog eleni.

Mae’r cyllid ychwanegol yn cynnwys £21m i brynu offer diagnostig i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i’w helpu i leihau amseroedd aros.

Daw hynny ar ben pecyn gwerth £50m gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf i gwtogi’r arosiadau hiraf.

Bydd £20m yn cael ei ddarparu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau, drwy raglen adeiladu ysgolion a cholegau Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sy’n ychwanegol at £30m gafodd ei ddarparu eisoes eleni.

Bydd £1m yn ychwanegol ar gael ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, i gefnogi 60 o sefydliadau, yn ychwanegol at £1.5m gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y sector gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi.

Bydd cyllid arall yn cefnogi trafnidiaeth, tai a llywodraeth leol i greu swyddi gwyrdd a thwf.

Bydd rhagor o fanylion am gyllid yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos hon.

‘Cyflawni beth mae pobol ei eisiau’

“Ar ôl siarad â phobl ledled Cymru, fe wnes i amlinellu fy mhedair blaenoriaeth, sy’n cynnwys cwtogi’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd y cyllid ar gyfer offer diagnostig yn rhoi’r gallu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud yn union hynny, gan helpu pobol i gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach.

“Rydyn ni’n cyflawni beth mae pobol ei eisiau – yn ariannu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn cwtogi’r amseroedd aros hiraf, yn creu swyddi ac yn gweithio i wella safonau addysg.

“Rwy’n benderfynol ein bod am fynd ymhellach a gweithio’n gyflymach, a bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein helpu i wneud yn union hynny yn y meysydd blaenoriaeth hyn.”

Y Celfyddydau

Wrth siarad am yr arian ychwanegol ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, dywed Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ei fod yn “falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol eleni i ddiogelu swyddi a sefydliadau yn ein sector celfyddydol”.

“Mae gennym sector celfyddydau cryf iawn yng Nghymru, sy’n datblygu ac yn cefnogi talent Gymreig o’r radd flaenaf,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad hwn, ar gyfer 60 o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Syrcas Cimera yng Nghaernarfon a Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon, yn rhoi cefnogaeth hanfodol i’n sefydliadau diwylliannol.”

Mae’r pecyn cyllid newydd gwerth £157m, sy’n gyfuniad o gyllid refeniw a chyfalaf, ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-25).

Bydd y Gyllideb Ddrafft, sy’n nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2025-26), yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 10).