Mae’r pôl piniwn diweddaraf ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2026, gafodd ei gyhoeddi ddydd Sul (Rhagfyr 1), yn awgrymu mai Plaid Cymru ydy’r blaid fwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, a bod Reform UK bellach yr un mor boblogaidd â’r Blaid Lafur.
Ac eithrio cyfnod bregus yn sgil Brexit yn 2019, a dechrau’r pandemig ym mis Ebrill 2020, pan dderbyniodd ymateb Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ganmoliaeth eang, dyma’r tro cyntaf ers dechrau datganoli yn 1999 i arolygon barn awgrymu mai plaid ar wahân i’r Blaid Lafur fydd yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yng Nghymru.
Pe bai’r canlyniadau hyn yn cael eu hefelychu yn yr etholiad ymhen blwyddyn a hanner, mi fyddai newid hanesyddol ar waith yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Yn fwy diddorol fyth ydy’r hyn mae canlyniadau’r pôl piniwn yn ei awgrymu am y newidiadau cymdeithasol yng Nghymru sydd wrth wraidd y newid yn ymddygiadau gwleidyddol pleidleiswyr.
‘Cwesitynau eithaf teg’
Anfodlonrwydd cyffredinol gyda record y Blaid Lafur ydy sylfaen y pôl syfrdanol hwn, yn ôl Joe Rossiter, cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, sy’n felin drafod annibynnol.
“Yn y 25 mlynedd ers cychwyn datganoli, mae cyfraddau tlodi a chyfraddau gweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uwch yng Nghymru o’u cymharu â chymedr gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360.
Yn yr un modd, mae rhestrau oedi’r Gwasanaeth Iechyd yn hirach yng Nghymru nag yn unman arall.
“Mae pobol wedi dechrau gofyn cwestiynau eithaf teg am sut mae’r llywodraeth ddatganoledig yn perfformio yn y meysydd hyn, am eu bod nhw’n feysydd wedi’u datganoli,” meddai.
“Yn ogystal, wedi’r pandemig, mae pobol yn gynyddol yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn sydd ddim.
“Roedd y pandemig yn beth arwyddocaol iawn o ran hynny.”
“Mantais arbennig” i Blaid Cymru
Er mai Plaid Cymru fyddai’r blaid fwyaf pe bai canlyniadau’r pôl piniwn yn cael eu hefelychu yn etholiad 2026, ychydig o bwyntiau’n uwch na’u canlyniadau yn etholiad 2021 fyddai cyfran eu pleidlais (24% nawr, o gymharu ag 20.3% bryd hynny).
Mae hyn yn dal i fod yn is na’r 28.4% yn yr etholaethau a’r 30.5% yn y rhanbarthau dderbynion nhw yn etholiad 1999, sef eu canlyniad gorau erioed.
Yn ôl Joe Rossiter, fodd bynnag, dylai Plaid Cymru fod yn hapus iawn gyda’r canlyniadau hyn.
“Mi fydd Plaid Cymru’n teimlo bod medru ymosod ar y Blaid Lafur yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd yn fantais arbennig iddyn nhw, yn enwedig os ydy’r trafferthion mae pobol yng Nghymru yn eu hwynebu yn parhau.”
Reform UK yn “tynnu ar bryderon go iawn”
Mae’n amlwg, serch hynny, mai Reform UK sydd wedi elwa fwyaf yn ddiweddar.
Yn y pôl piniwn cyntaf ers diwygio sut mae ethol aelodau’r Senedd ym mis Mai eleni, 10% yn unig oedd yn dweud eu bod nhw’n cefnogi plaid Nigel Farage.
Yna, mewn arolwg ar ddechrau mis Tachwedd, roedd 19% yn dweud eu bod nhw’n bwriadu pleidleisio drostyn nhw.
Bellach, 23% ydy’r ffigwr hwnnw, sef yr un faint ag sy’n cefnogi’r Blaid Lafur.
Byddai canlyniad o’r fath yn sylweddol uwch na’r 12.5% yn yr etholaethau a’r 13% yn y rhanbarthau lwyddodd UKIP, rhagflaenwyr Reform UK, ym mis Mai 2016, fis yn unig cyn refferendwm Brexit.
“Mae’n amlwg bod Reform yn tynnu ar bryderon go iawn ynglŷn â’r ffordd mae llywodraeth ddatganoledig yn perfformio,” meddai Joe Rossiter.
Reform UK yn disodli’r Ceidwadwyr ar y dde
Awgrym Joe Rossiter ydy bod Reform UK yn dechrau disodli’r Ceidwadwyr fel prif blaid asgell dde Cymru.
“Er bod ychydig o gefnogwyr y Blaid Lafur yn troi at Reform UK, gan y Ceidwadwyr mae’r rhan fwyaf o’u pleidlais wedi dod,” meddai.
“Mae cefnogaeth y Blaid Geidwadol yn parhau i ddirywio wrth i gyfran eu pleidleiswyr barhau i heneiddio.”
Yn ogystal, meddai, mae’r Ceidwadwyr yn wynebu trafferthion wrth geisio diffinio’u perthynas â’r Blaid Geidwadol ehangach a’u safbwynt ar ddatganoli.
Mae Nigel Farage wedi ymrwymo’i blaid yn gryf i egwyddor datganoli, ond mae’r Blaid Geidwadol wedi dechrau dod yn fwy rhanedig ynghylch dyfodol Senedd Cymru.
“Unrhyw beth yn bosib” o hyd
Ond mae’n rhaid cofio bod deunaw mis nes yr etholiad o hyd, ac y gall yr holl ragolygon hyn newid yn sydyn iawn, yn enwedig yn sgil y system etholiadol newydd, yn ôl Joe Rossiter.
“Mae unrhyw beth yn bosib mor bell â hyn o’r etholiad.”
Mae’n pwysleisio bod gan y Blaid Lafur gyfle i adfer cyn y bleidlais ym mis Mai 2026.
“Mae’r Blaid Lafur wedi dominyddu yng Nghymru ers degawdau.
“Mi fydd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru’n gobeithio y bydd dod i’r afael â rhestrau oedi’r Gwasanaeth Iechyd, a derbyn mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ddigon i sicrhau mai nhw fydd y blaid fwyaf yn 2026.
“Ond mae’n anodd dweud os bydd modd iddyn nhw greu newid mor sylfaenol yn y cyfnod hwnnw.”