Mae Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi ailadrodd addewid i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd gwleidyddion celwyddog, yng nghanol pryderon am wleidyddoli’r llysoedd.
Roedd Huw Irranca-Davies wedi ailddatgan yr addewid wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Safonau’r Senedd i roi tystiolaeth i ymchwiliad am atebolrwydd heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 2).
Roedd Lee Walters o’r Blaid Lafur yn cwestiynu a fydd yr ymrwymiad i Fil ar ddiarddel gwleidyddion sy’n cael eu canfod yn euog o dwyll drwy broses farnwrol annibynnol yn cael ei gadw erbyn 2026.
“Beth bynnag sy’n digwydd, mae’r ymrwymiad hwnnw’n sefyll,” meddai Huw Irranca-Davies wrth y pwyllgor.
Ond fe rybuddiodd am gymhlethdod ymarferol wrth ddiarddel ymgeiswyr ac aelodau’r Senedd, gan godi pryderon pellach am wleidyddoli’r llysoedd a chwynion maleisus.
‘Hunanreoleiddio’
Dywedodd Huw Irranca-Davies y byddai angen i unrhyw ddeddfwriaeth newydd fod yn ymwybodol o ryddid mynegiant, o dan Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mynegodd mai cymesuredd fydd y prawf allweddol o gydymffurfio â chyfraith hawliau dynol.
Mae’r pwyllgor safonau yn ystyried argymhellion, gan gynnwys creu trosedd o dwyll, trosedd sifil, neu gyfiawnhau’r system hunanreoleiddio bresennol.
Fe wnaeth Mick-Antoniw, y cyn-weinidog roddodd yr ymrwymiad cychwynnol i ddeddfwriaeth i osgoi trechu mewn pleidlais o fewn y Senedd, ddweud bod y Pwyllgor Safonau yn eistedd fel corff lled-farnwrol.
Ond anghytunodd Adam Price o Blaid Cymru, gan wahaniaethu rhwng hunanreoleiddio a phroses farnwrol annibynnol drwy dribiwnlys neu lys troseddol.
‘Anghyfiawnder’
Galwodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, am eglurder ynghylch yr amserlen.
Ailadroddodd Huw Irranca-Davies yr ymrwymiad i gyflwyno bil cyn etholiad Senedd 2026, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo slot ar gyfer y ddeddfwriaeth.
Gan droi at fraint seneddol, sy’n rhoi imiwnedd i Aelodau Seneddol rhag her gyfreithiol, dywedodd Huw Irranca-Davies fod yr egwyddor werthfawr yn caniatáu i wleidyddion siarad yn rhydd.
Yn y Senedd, mae braint wedi’i chyfyngu i ddifenwi a dirmyg yn hytrach nag absoliwt, ond mae camau ar y gweill i sicrhau cydraddoldeb ar draws y pedair gwlad.
“Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydyn ni’n tresmasu ar yr hawl hanfodol honno sydd gan seneddwyr i siarad yn rhydd ar ran eu hetholwyr ac yn erbyn anghyfiawnder,” meddai Huw Irranca-Davies.
Gan alw am gryfhau’r broses safonau yn ei chyfanrwydd, cefnogodd i gyflwyno system adalw, a fyddai’n caniatáu i bleidleiswyr roi hwb i aelodau’r Senedd rhwng etholiadau.
“Mae’n bwysig iawn, rydyn ni’n credu, fel pwynt o egwyddor lle canfyddir bod aelodau ymhell islaw’r safonau ymddygiad disgwyliedig bod yr etholwyr yn cael y cyfle i’w dileu,” meddai wedyn.
Disgrifiodd y sbardunau sy’n cael eu defnyddio yn San Steffan fel man cychwyn defnyddiol, sef dedfryd o garchar am ddeuddeg mis neu lai, ataliad o ddeg diwrnod o leiaf, neu euogfarn am drosedd yn ymwneud â threuliau.
Ond dywedodd y cyn-Aelod Seneddol y gallai Cymru ymwahanu, gan godi pryderon y gallai ataliad o ddeng niwrnod glymu dwylo’r pwyllgor, ac awgrymu disgresiwn i ataliadau o 30 diwrnod neu lai.
Rhybuddiodd Huw Irranca-Davies y byddai cyflwyno mesur cyn etholiad nesaf y Senedd yn gofyn am “symudiad cyflym”, gyda goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol.
‘Tanseilio’
O 2026, bydd pobol yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach nag unigolion wrth i’r Senedd roi’r gorau i’r system cyntaf i’r felin o blaid ffurf lawn o gynrychiolaeth gyfrannol.
Byddai’r ymgeisydd nesaf ar restr y blaid wleidyddol yn cael ei ethol, ac ni fyddai gan y cyhoedd unrhyw lais pellach ynghylch pwy fyddai’n disodli aelod o’r Senedd sy’n cael ei alw’n ôl.
“Mae Llywodraeth [Cymru] yn parhau’n gadarn o’r farn nad oes ffurf ar is-etholiad, y byddech chi’n ei weld o dan y system cyntaf i’r felin, a fyddai’n gweithio o fewn y system newydd hon,” meddai Huw Irranca-Davies.
Dadleuodd y dylai unigolion yn hytrach na phleidiau gael eu cosbi, gan rybuddio y gallai galw yn ôl fel arall danseilio cymesuredd y Senedd fel y penderfynwyd mewn etholiad.
Roedd y dirprwy brif weinidog o blaid pleidlais gyhoeddus ie neu na syml ynghylch a ddylai gwleidydd aros yn ei swydd yn dilyn argymhelliad i alw’n ôl gan y Pwyllgor Safonau.