Bydd Andrew RT Davies yn wynebu pleidlais hyder heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3).

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod dan y lach yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r bleidlais hyder wedi’i galw ganddo fe ei hun yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.

Ymhlith ei sylwadau mwyaf dadleuol roedd ei farn am ddiffyg argaeledd cig nad yw’n halal mewn ysgolion, y ffaith iddo fe gynnal pleidlais mewn digwyddiad amaethyddol yn codi amheuon am ddyfodol datganoli a’r Senedd, a’r sylwadau negyddol parhaus am y terfyn cyflymder 20m.y.a., gan gynnwys bod y polisi’n “flanced”.

Mae e hefyd wedi’i feirniadu yn sgil y ffordd roedd y blaid wedi ymateb i honiadau o hiliaeth yn erbyn Laura Anne Jones, yr Aelod o’r Senedd, sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu yn sgil ei threuliau – ymchwiliad sydd bellach wedi dod i ben.

Er gwaetha’r sefyllfa bresennol, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod y rhai sy’n gwrthwynebu’r arweinydd ymhlith lleiafrif bach o fewn y blaid.

Cafodd Andrew RT Davies ei ethol yn arweinydd yn 2011, ac roedd e yn y swydd tan iddo fe ymddiswyddo yn 2018.

Dechreuodd ei ail gyfnod wrth y llyw yn 2021 yn dilyn ymddiswyddiad Paul Davies.

Cael a chael

Ar drothwy’r bleidlais, dydy hi ddim yn glir pa ffordd fydd y canlyniad yn mynd, gyda nifer o wleidyddion o fewn y blaid yn cwestiynu ei weithredoedd yn gyhoeddus ac yn breifat.

Dydy hi ddim yn ymddangos bod llawer o hyder gan y naill garfan na’r llall pan ddaw i ganlyniad y bleidlais yn ei erbyn.

Pe bai’n colli’r bleidlais, fe fydd e dan bwysau i ymddiswyddo, ond fe allai’r galwadau hynny ddod hyd yn oed pe bai’n ennill.

Un o’r canlyniadau gwaethaf iddo fyddai gweld aelodau ei gabinet cysgodol yn ymddiswyddo, fel y gwnaeth aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru adeg ymddiswyddiad Vaughan Gething, y cyn-Brif Weinidog Llafur.

Fe allai ymddiswyddo o’i wirfodd, ond mae’n bosib y daw cyfle iddo fe ddadlau dros ei ddyfodol er mwyn cael aros yn y swydd.

Andrew RT Davies am wynebu pleidlais hyder

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dan y lach am sawl digwyddiad, ac mae’n ymddangos ei fod yn dechrau colli cefnogaeth ei blaid