Fe fydd Andrew RT Davies yn wynebu pleidlais hyder ddydd Mawrth (Rhagfyr 3).
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod dan y lach yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r bleidlais hyder wedi’i galw ganddo fe ei hun yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
Ymhlith ei sylwadau mwyaf dadleuol roedd ei farn am ddiffyg argaeledd cig nad yw’n halal mewn ysgolion, y ffaith iddo fe gynnal pleidlais mewn digwyddiad amaethyddol yn codi amheuon am ddyfodol datganoli a’r Senedd, a’r sylwadau negyddol parhaus am y terfyn cyflymder 20m.y.a., gan gynnwys bod y polisi’n “flanced”.
Mae e hefyd wedi’i feirniadu yn sgil y ffordd roedd y blaid wedi ymateb i honiadau o hiliaeth yn erbyn Laura Anne Jones, yr Aelod o’r Senedd, sydd bellach yn destun ymchwiliad gan yr heddlu yn sgil ei threuliau.
Er gwaetha’r sefyllfa bresennol, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod y rhai sy’n gwrthwynebu’r arweinydd ymhlith lleiafrif bach o fewn y blaid.
Mae lle i gredu bod dau Geidwadwr wedi tynnu’n ôl o gynnal cyfweliadau ddoe (dydd Iau, Tachwedd 28) yn sgil y cyfarfod.
Cafodd Andrew RT Davies ei ethol yn arweinydd yn 2011, ac roedd e yn y swydd tan iddo fe ymddiswyddo yn 2018.
Dechreuodd ei ail gyfnod wrth y llyw yn 2021 yn dilyn ymddiswyddiad Paul Davies.