Roedd ennill gwobr am eu defnydd o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni’n “dipyn bach o sioc” i’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nos Lun (Tachwedd 25) i gydnabod gwaith elusennau ledled Cymru.

Fe wnaeth y Bartneriaeth Awyr Agored guro SPAN Arts a Gwasanaeth Ysgolion Cymru’r NSPCC, oedd hefyd ar y rhestr fer.

Y Bartneriaeth Awyr Agored

Cafodd y Bartneriaeth Awyr Agored ei sefydlu yn 2004, ac mae’n parhau i gynllunio gweithgareddau megis cerdded, rhedeg, dringo a chanŵio allan yn yr awyr agored.

Nid gogledd-orllewin Cymru yn unig yw canolbwynt yr elusen bellach – mae’r Outdoor Partnership hefyd yn weithredol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Pan ymunodd y Swyddog Gwirfoddoli Siân Williams â’r bartneriaeth yn 2019, llwyddodd yr elusen i ennill grant gan y Loteri Genedlaethol er mwyn ehangu eu darpariaeth i wahanol ardaloedd.

“Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn fater o rannu’r gwaith a’r arfer da rydan ni wedi bod yn ei wneud yng ngogledd-orllewin Cymru efo ardaloedd eraill tebyg ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360.

“Mi rydan ni’n rhedeg gwahanol brosiectau efo’r bwriad o gynnig neu ehangu’r cyfleoedd i bobol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, a bod pobol yn gwneud hynny yn eu cymunedau lleol eu hunain.

“Fel Swyddog Gwirfoddoli, dw i’n gweithio lot efo clybiau awyr agored sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr, ac mae’r rheiny yn darparu sesiynau rheolaidd mewn cymunedau ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae amrediad y gweithgareddau rydan ni’n eu cefnogi’n rili eang.”

‘Wastad wedi bod yn weithredol yn ddwyieithog’

Dywed Siân Williams fod derbyn y wobr am y defnydd o’r Gymraeg yn “dipyn bach o sioc” iddyn nhw.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n cysidro ein hunain yn gwneud dim byd yn wahanol i beth sy’n digwydd yn naturiol,” meddai wedyn.

“Wedi cychwyn yng ngogledd-orllewin Cymru, ardal Gymreig ofnadwy, mi rydan ni wastad wedi bod yn weithredol yn ddwyieithog.

“Pan wnaethon ni ehangu i weithio ar draws Cymru i gyd, roedd yna ardaloedd oedd ddim efo cymaint o siaradwyr Cymraeg, ond mi oeddan ni dal yn awyddus i weithredu yn yr un ffordd.

“Mae ein safle we ni yn hollol ddwyieithog, ac mi rydan ni’n trio gwneud y mwyafrif o’r cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.

“O ran pobol sy’n cysylltu efo ni, os nad yw’r swyddogion o fewn y tîm maen nhw’n cysylltu efo nhw yn siaradwyr Cymraeg rhugl, maen nhw wastad yn gallu cyfeirio at rywun sydd yn rhugl i ddelio efo’r ymholiad.”

Gan fod Y Bartneriaeth Awyr Agored wedi’i leoli yn y gogledd-orllewin, mae rhan fwya’r tîm yn siaradwyr Cymraeg ac, yn ôl Siân Williams, maen nhw’n awyddus i ehangu ar hynny.

Y wobr yn “help i godi statws” yr elusen

Gyda’r diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored ar gynnydd, mae gan yr elusen ddigon i’w wneud i lenwi’r dyddiadur ar gyfer 2025.

Maen nhw’n gobeithio parhau i gydweithio â chymunedau lleol er mwyn rhoi hyder i bobol fynd ati i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored.

“Be’ rydan ni eisiau’i sicrhau ydi fod pobol leol sy’n byw mewn llefydd sy’n boblogaidd iawn i wneud gweithgareddau awyr agored hefyd yn cael y cyfleoedd yma sydd ar eu stepen drws, a’i fod o ddim yn fater o bobol ddieithr yn dod ac yn gwneud y gweithgareddau.

“Rydan ni’n dîm eithaf bychan, felly mi ydan ni’n trio gwneud bob dim ein hunain, felly mae pethau fel cael y wobr i gyd yn help o ran codi statws a chynyddu ymwybyddiaeth am yr elusen.”