Fe fydd Andrew RT Davies yn parhau’n arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn pleidlais yng nghyfarfod grŵp y Senedd fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3).
Fe wnaeth naw o aelodau Ceidwadol y Senedd gefnogi’r arweinydd presennol, gyda saith yn pleidleisio yn ei erbyn.
Andrew RT Davies ydy arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers 2021, ac fe fu’n arwain y Blaid rhwng 2011 a 2018 hefyd.
Mae’n ymddangos bod anghydfod wedi bod ynghylch dull y bleidlais.
Yn ôl gwefan Guido Fawkes, roedd Andrew RT Davies am i’r bleidlais fod yn un gyhoeddus, ond mae’n debyg i Sam Kurtz, cadeirydd y Grŵp, wrthod hynny a mynnu pleidlais gudd.
Yn ôl Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, y rhai oedd wedi pleidleisio yn erbyn Andrew RT Davies yw Sam Kurtz, Sam Rowlands, Tom Giffard, Peter Fox, Altaf Hussein, Natasha Asghar a James Evans.
Y rhai oedd wedi ei gefnogi yw Laura Anne Jones, Gareth Davies, Joel James, Janet Finch Saunders, Paul Davies, Russell George, Mark Isherwood a Darren Millar.
‘Canolbwyntio arnyn nhw eu hunain’
“Yn hytrach na chanolbwyntio ar anghenion pobol Cymru ac ystyried pam y gwnaeth pleidleiswyr eu gwrthod mor bendant yn yr Etholiad Cyffredinol, maen nhw’n dewis parhau i ganolbwyntio arnyn nhw eu hunain,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru, wrth ymateb i’r bleidlais.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dangos, unwaith yn rhagor, nad ydyn nhw yn blaid ddifrifol.”
Mae Reform UK yn dweud bod y Ceidwadwyr yn “blaid ffaeledig”.
“Yn ôl eu harfer, mae’r Torïaid wedi taflu arweinydd arall allan gan feddwl y bydd yn atgyfodi eu plaid ffaeledig,” meddai llefarydd.
“Maen nhw’n poeni mwy am ymgiprys am safle nag ydyn nhw am wasanaethu pobol Cymru.
“Does dim ots pwy sydd ganddyn nhw’n arweinydd, y gwir plaen ydy eu bod nhw wedi methu fel gwrthblaid, yn yr un modd ag yr oedden nhw wedi esgeuluso Cymru yn San Steffan am 14 o flynyddoedd.
“Mae pobol Cymru eisiau newid go iawn yn 2026, a dyna’n union rydyn ni’n bwriadu ei gynnig iddyn nhw.”
Dan y lach
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod dan y lach yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd y bleidlais hyder ei galw ganddo fe ei hun yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
Ymhlith ei sylwadau mwyaf dadleuol oedd ei honiadau fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn “cael eu gorfodi” i fwyta cig Halal – cafodd yr honiad ei wrthod gan yr ysgol, y ffaith iddo fe gynnal “pleidlais” mewn digwyddiad amaethyddol yn gofyn a ddylid diddymu’r Senedd, a’r sylwadau negyddol parhaus am y terfyn cyflymder 20m.y.a., gan gynnwys bod y polisi’n “flanced”.
Mae e hefyd wedi’i feirniadu yn sgil y ffordd roedd y blaid wedi ymateb i honiadau o hiliaeth yn erbyn Laura Anne Jones, yr Aelod o’r Senedd sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu yn sgil ei threuliau – ymchwiliad sydd bellach wedi dod i ben.