Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’i swydd, a hynny er iddo ennill pleidlais hyder yn ei arweinyddiaeth fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3).
Fe wnaeth naw o aelodau Ceidwadol y Senedd gefnogi’r arweinydd, gyda saith wedi pleidleisio yn ei erbyn.
Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers 2021, ac fe fu’n arwain y blaid rhwng 2011 a 2018 hefyd.
Ond mae e wedi bod dan y lach yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd y bleidlais hyder ei galw ganddo fe ei hun yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
Ymhlith ei sylwadau mwyaf dadleuol oedd ei honiadau fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn “cael eu gorfodi” i fwyta cig Halal – cafodd yr honiad ei wrthod gan yr ysgol; y ffaith iddo fe gynnal “pleidlais” mewn digwyddiad amaethyddol yn gofyn a ddylid diddymu’r Senedd, a’r sylwadau negyddol parhaus am y terfyn cyflymder 20m.y.a., gan gynnwys bod y polisi’n “flanced”.
‘Amhosib cynnig neges glir’
Mewn llythyr at gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Andrew RT Davies fod angen mabwysiadu strategaeth i herio polisïau Llafur sydd wedi “hollti barn”, fel y terfyn cyflymder 20m.y.a, a’u “methiannau” o ran y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.
Dywed y byddai “methiant i wynebu pynciau dadleuol y mae’r cyhoedd yn mynnu ein bod yn mynd i’r afael â nhw” yn peri risg sylweddol i’r blaid yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
“Dros y misoedd diwethaf, mae wedi dod yn fwyfwy anodd mabwysiadu’r dull angenrheidiol hwn, oherwydd gwrthwynebiad gan rai aelodau o fewn Grŵp y Senedd,” meddai.
“Mewn llawer o achosion, roedd yn amhosibl cynnig neges glir, gyda datganiadau yn cael eu gwrthddweud yn gyhoeddus gan rai aelodau.
“Roedd hyn yn ei gwneud yn aneglur i’r cyhoedd beth yn union mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn ei gynrychioli.
“Yr wythnos ddiwethaf, daeth grŵp o aelodau’r Senedd ataf, gan fygwth ymddiswyddo o’u swyddi yn y cabinet cysgodol os nad oeddwn i’n cytuno i gamu i lawr fel arweinydd.
“Gofynnais felly am bleidlais o hyder yn fy arweinyddiaeth i’w chynnal mewn cyfarfod y bore yma. Mae’r bleidlais hon bellach wedi digwydd.
“Roedd yn amlwg o’r canlyniad nad yw lleiafrif sylweddol o’r Grŵp yn cefnogi ein strategaeth, er mai dyma’r unig strategaeth ymarferol sydd ar gael.
“Er y byddai wedi bod yn anrhydedd i mi barhau’n arweinydd, mae fy swydd yn anghynaladwy o ganlyniad.”
Angen “dadl iach” wrth ddewis olynydd
Mae Andrew RT Davies wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yn y gystadleuaeth i ddewis olynydd iddo.
“Wrth symud ymlaen, mae’n amlwg bod yn rhaid i Blaid Geidwadol Cymru benderfynu beth maen nhw’n sefyll drosto.
“Mae hwn yn benderfyniad lle mae’n rhaid i bawb gael y cyfle i ddweud eu dweud.
“Mae’n hollbwysig, felly, bod gornest yn cael ei chynnal i ethol fy olynydd, gydag aelodau’r blaid yn cael y cyfle i ddewis.
“Rhaid cael dadl iach lle mae’r ymgeiswyr, eu syniadau a’u rhinweddau yn cael eu craffu’n gadarn.
“I gadarnhau, ni fyddaf yn sefyll yn y gystadleuaeth hon.
“Unwaith eto, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r cyhoedd yng Nghymru ac aelodau’r blaid am roi’r cyfle i mi wasanaethu.
“Mae gwasanaeth cyhoeddus yn fraint, a byddaf yn parhau i fod yn ddiolchgar am byth am gael y cyfle i chwarae fy rhan.”
‘Plaid Cymru’n barod i gynnig dechrau newydd i Gymru’
Wrth ymateb, dywed Plaid Cymru eu bod nhw’n “barod i gynnig dechrau newydd i Gymru”.
“Rwy’n dymuno’n dda i Andrew RT Davies yn dilyn ei benderfyniad i gamu i lawr fel arweinydd grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.
“Mae etifeddiaeth y Torïaid yng Nghymru yn un o anhrefn a thoriadau – etifeddiaeth gafodd ei gwrthod yn llwyr gan bleidleiswyr Cymru eleni.
“Nid ydyn nhw’n cynnig unrhyw atebion i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau, ac nid oes ganddyn nhw gynllun o ddifrif i lywodraethu chwaith.
“Mae Plaid Cymru yn barod i gynnig dechrau newydd i Gymru.
“Tra bod y Torïaid yn ymladd ymysg ei gilydd a Llafur yn parhau i adael ein cymunedau i lawr, mae Plaid Cymru yn unedig ac yn canolbwyntio ar wireddu ein gweledigaeth i ailadeiladu ein heconomi, trwsio’r Gwasanaeth Iechyd, mynnu triniaeth deg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a dangos uchelgais go iawn ar gyfer dyfodol ein cenedl.”