Mae Darren Millar wedi cyflwyno’i enw i fod yn arweinydd nesa’r Ceidwadwyr Cymreig.
Daw’r datganiad gan yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies ar ôl ennill pleidlais hyder o fewn y blaid.
Fe wnaeth naw o aelodau Ceidwadol y Senedd gefnogi’r arweinydd, gan gynnwys Darren Millar, gyda saith wedi pleidleisio yn ei erbyn.
Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers 2021, ac fe fu’n arwain y blaid rhwng 2011 a 2018 hefyd.
Ond mae e wedi bod dan y lach yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd y bleidlais hyder ei galw ganddo fe ei hun yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
Ymhlith ei sylwadau mwyaf dadleuol oedd ei honiadau fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn “cael eu gorfodi” i fwyta cig Halal – cafodd yr honiad ei wrthod gan yr ysgol; y ffaith iddo fe gynnal “pleidlais” mewn digwyddiad amaethyddol yn gofyn a ddylid diddymu’r Senedd, a’r sylwadau negyddol parhaus am y terfyn cyflymder 20m.y.a., gan gynnwys bod y polisi’n “flanced”.
‘Mae’n bryd uno’r blaid’
“Yn sgil y digwyddiadau fore heddiw, ac ar ôl trafod materion ag Andrew RT Davies a chydweithwyr eraill, dw i wedi penderfynu caniatáu i fy enw gael ei gyflwyno fel enwebiad ar gyfer Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd,” meddai Darren Millar ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Fe fu Andrew yn arweinydd aruthrol, gan helpu ein plaid i gyflawni canlyniadau yn etholiadau’r Senedd yn 2021 wnaeth dorri record.
“Mae’n gadael esgidiau mawr i’w llenwi.
“Mae hi bellach yn bryd uno’n plaid, adeiladu ar waddol Andrew, a mynd â’r frwydr at ein gwrthwynebwyr gwleidyddol wrth i ni baratoi at etholiadau Senedd Cymru yn 2026.”
Mae’r cyn-arweinydd Paul Davies eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Darren Millar.