“Beth bynnag roeddwn i’n ei wneud, roedd rhai unigolion penodol o fewn y Grŵp oedd yn barod i achosi stŵr.”
Dyna eiriau Andrew RT Davies wrth siarad â golwg360 yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gan awgrymu ei fod e’n teimlo ei fod e ar ei golled beth bynnag fyddai’n ei wneud yn y swydd.
Enillodd yr arweinydd bleidlais hyder yn ei erbyn fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3), a hynny o naw pleidlais i saith.
Y rhai oedd yn ei gefnogi yw Laura Anne Jones, Gareth Davies, Joel James, Janet Finch-Saunders, Paul Davies, Russell George, Mark Isherwood a Darren Millar.
Yn ei erbyn roedd Sam Kurtz, Sam Rowlands, Tom Giffard, Peter Fox, Altaf Hussain, Natasha Asghar a James Evans.
Yn dilyn buddugoliaeth o drwch blewyn, dewisodd Andrew RT Davies gamu o’r neilltu.
‘Anghynaladwy’
“Dydi hi ddim yn briodol i fi siarad dros y saith aelod sydd eisiau newid,” meddai Andrew RT Davies wrth golwg360.
“Yr hyn dw i’n hapus iawn amdano ydi bod y mwyafrif o Aelodau [yn y Senedd] wedi pleidleisio i roi eu cefnogaeth a hyder ynof fi – a dw i’n gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.”
Yn ei lythyr at Bernard Gentry, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Andrew RT Davies fod ei safle fel arweinydd y blaid yn “anghynaladwy”.
Wrth adleisio hyn, dywedodd wrth golwg360 ei bod hi’n “amlwg yn anghynaladwy i barhau gyda chymaint o unigolion yn y Grŵp mewn lleiafrif oedd mor angerddol yn gwrthwynebu fy arweinyddiaeth i”.
“Ac roeddwn i’n cynnig y ‘Brecwast Cymreig’ yma efo pwdin gwaed,” meddai.
“Ond os ydyn nhw’n wirioneddol yn credu bod y cynnig o muesli a croissant yn gynnig gwell yn eu bywydau nhw, pob lwc iddyn nhw!”
‘Pleidiau yn mynd a dod’
Ydy Andrew RT Davies yn dal i gredu mai’r Ceidwadwyr Cymreig yw’r blaid orau i wireddu ei weledigaeth wleidyddol?
“Mae Cymru wirioneddol angen plaid gref sydd i’r chwith o’r canol, a dw i yn – ac wedi – cyflawni hyn fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig,” meddai.
“Mae pleidiau yn mynd a dod drwy’r amser, ond yr hyn oedd gennym ni oedd neges glir a phenodol i sefyll lan dros Gymru ac i gynnig newid.”
Yn ôl arolwg Barn Cymru yn ddiweddar, roedd y Ceidwadwyr yn bedwerydd fel plaid, gyda phedair plaid o fewn pum pwynt i’w gilydd.
“I fi mae hynny’n agos iawn,” meddai Andrew RT Davies wedyn.
“Gydag arweinyddiaeth gref ac ymgyrch flaengar, dw i’n credu y bydden ni wedi gwthio er mwyn newid bywydau pobol yma yng Nghymru.”
Ychwanega ei fod yn “dal i gredu” bod hyn yn bosib o dan arweinydd newydd, a bod “unrhyw beth yn bosib yn yr etholiad nesaf”.
“Ac mae hynny oherwydd bod yr etholwyr eisiau newid go iawn, ac eisiau dewis gwahanol gwirioneddol yma yng Nghymru,” meddai.
Beth nesaf?
Wrth drafod y dyfodol, dywed Andrew RT Davies ei fod yn bwriadu sefyll yn enw’r Ceidwadwyr Cymreig yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dywed hefyd ei fod “yn barod i gefnogi” pwy bynnag fydd yn ei olynu.
Hyd yma, dim ond Darren Millar sydd wedi datgan bwriad i sefyll yn y ras.
“Dw i yn chwaraewr tîm,” meddai Andrew RT Davies.
“Ac yn union fel tîm rygbi, os nad ydych chi’n chwarae fel un tîm, dydych ddim yn llwyddo a dydych chi ddim yn ennill.”
‘Islamoffobia’
Mae golwg360 yn deall bod Aelodau Ceidwadol o’r Senedd wedi bod yn gynyddol anghyfforddus ynghylch symudiad y Ceidwadwyr Cymreig ymhellach i’r dde o dan arweinyddiaeth Andrew RT Davies.
Roedd honiadau o Islamoffobia gan Gyngor Mwslimaidd Cymru, ar ôl i Andrew RT Davies rannu sïon am gig halal yn cael ei roi i blant mewn ysgol yng Nghymru.
Ond dywed nad yw’n derbyn y ddadl ei fod e wedi “symud y Ceidwadwyr Cymreig ymhellach i’r dde”.
“Rwy’n Geidwadwr sy’n credu bod gwella iechyd, addysg, a’r economi yn faterion angenrheidiol,” meddai.
“Ond pan fo mewnfudo yn un o brif flaenoriaethau pobol – ac rwy’n derbyn ei fod yn fater sydd heb ei ddatganoli – wedyn mae’n rhaid i ni siarad a thrafod y pwnc.”
‘Stŵr’
Yn ôl Nation.Cymru, roedd Aelodau’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd yn anghyfforddus yn sgil ymddangosiad Andrew RT Davies ar y podlediad The Central Club.
Mae pobol asgell dde flaenllaw wedi bod ar y podlediad, gan gynnwys Tommy Robinson.
Ond mae’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford, rheolwr tîm pêl droed cenedlaethol Cymru Craig Bellamy, a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams hefyd wedi ymddangos ar y podlediad.
“Beth bynnag roeddwn i’n ei wneud, roedd rhai unigolion penodol o fewn y Grŵp oedd yn barod i achosi stŵr,” meddai.
“Hyd yn oed pe bawn i wedi cerdded i lawr i’r ystafell a gollwng ychydig bach o laeth, mi fyddwn i wedi cael fy ngalw’n fandal!
“Eu problem nhw yw hynny; dw i ddim yn poeni dim, a bod yn onest.”