Mae Llywodraeth Cymru’n galw ar bobol sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael yn sgil y ffliw a Covid-19 i gael eu brechu cyn gynted â phosib.
Maen nhw’n rhybuddio bod tymor y feirysau ar ei anterth, a bod angen i bobol fregus weithredu ar unwaith.
Ymhlith y rhai sy’n cael eu cyfrif yn fregus mae nifer o bobol dan 65 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol, ac sy’n gymwys o’r herwydd i dderbyn brechiad am ddim, ond sydd heb dderbyn y brechlyn eto.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod llai na 30% o oedolion iau sy’n gymwys wedi manteisio ar y brechiad am ddim rhag y ffliw.
Mae hyn o gymharu â’r 62% o bobol 65 oed a throsodd sydd wedi’u brechu.
Pobol iau â chyflyrau iechyd “yn wynebu cymhlethdodau difrifol”
Mae Dr Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn poeni y bydd peidio â derbyn brechiadau’n medru arwain at gymhlethdodau difrifol – i unigolion ac i ysbytai.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw llawer o bobol ifanc sydd â chyflyrau fel asthma neu glefyd siwgr wedi cael yr amddiffyniad hanfodol hwn eto,” meddai.
“I bobol sydd â chyflyrau iechyd cronig, nid jest ‘annwyd trwm’ yw’r ffliw.
“Heb gael eu brechu, gallai arwain at salwch difrifol a gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys.”
Fe fu’r ffliw yn lledaenu mwy ers Covid-19 nag o’r blaen, yn ôl yr Athro Catherine Moore, Cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Ffliw Cymru.
“Ers y pandemig, rydyn ni wedi gweld y ffliw yn lledaenu eto, gyda mwy o bobol yn cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd cymhlethdodau; rhai y gellid bod wedi’u hatal â brechiadau,” meddai.
Mae hi’n cyfeirio’n benodol at ddioddefwyr clefydau niwrolegol, cyflyrau anadlol, cyflyrau’r iau a’r galon, clefyd siwgr, ac at famau beichiog, sydd i gyd yn wynebu perygl difrifol gan y ffliw neu Covid-19 os nad ydyn nhw’n cael eu brechu.
“Yn anffodus, bydd cyfran o’r bobol hyn yn marw o ganlyniad,” meddai.
‘Amser o hyd’
Mae Llywodraeth Cymru’n pwysleisio bod gan unrhyw un sy’n gymwys i gael brechiad rhag Covid-19 neu’r ffliw “amser o hyd i gael eu hamddiffyn cyn bod tymor y feirysau ar ei anterth”.
Mae’n bosib cael brechlyn ar gyfer Covid-19 a’r ffliw ar yr un pryd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
“Rydyn ni’n hynod o ffodus yng Nghymru fod gennym raglen genedlaethol brechu rhag y ffliw i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd y feirws,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i fynd i gael eu hamddiffyn cyn gynted â phosib.”