Saith mlynedd ar ôl iddyn nhw adael o ganlyniad i refferendwm annibyniaeth Catalwnia, mae cwmni sment Molins wedi dychwelyd eu pencadlys i Barcelona.

Yn 2017, symudon nhw eu pencadlys i Madrid yn sgil y bleidlais a’r “anscirwydd” gafodd ei achosi.

Pan symudodd y cwmni i Madrid, dywedon nhw eu bod nhw’n awyddus i “warchod buddiannau’r cwmni” a “sicrhau gweithrediadau arferol”.

Roedd y refferendwm annibyniaeth yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Lywodraeth Sbaen.

Wrth ddatgan eu bwriad wrth Gomisiwn Cenedlaethol Diogelwch Cenedlaethol (CNMV), dywed y cwmni y bydd eu pencadlys yn Sant Vicenç dels Horts yn Baix Llobregat o hyn ymlaen.

Cafodd y penderfyniad i ddychwelyd ei gymeradwyo’n unfrydol gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Molins.