Mae’r Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig “yn cymryd cymunedau’n ganiataol”, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Daw’r sylwadau gan David Chadwick, dirprwy arweinydd y blaid, wrth iddo fe ymateb i adroddiadau bod y Llywodraeth yn San Steffan yn ystyried gwladoli’r cwmni British Steel.

Yn ôl y Llywodraeth, dyma fyddai’r cam olaf yn y broses o negodi gyda’r perchnogion Jingye i geisio achub y cwmni.

Mae lle i gredu bod y cwmni’n colli £1m bob dydd ar hyn o bryd, ac maen nhw’n ystyried symud tuag at dechnoleg werdd ar draul dulliau mwy traddodiadol o gynhyrchu dur, fel sydd wedi digwydd ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot, lle mae ffwrneisi chwyth wedi cael eu cau.

Ar y safle yn Scunthorpe mae’r ddwy ffwrnais chwyth olaf yn y Deyrnas Unedig bellach.

Aeth British Steel i drafferthion ariannol bum mlynedd yn ôl, a chawson nhw ddim cefnogaeth gan y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd yn San Steffan.

‘Diffyg strategaeth’

“Dw i ddim yn meddwl y dylen ni anghofio bod y diwydiant dur yn y wlad hon yn y fath drafferthion o ganlyniad i ddiffyg strategaeth ddiwydiannol y Llywodraeth Geidwadol flaenorol,” meddai David Chadwick.

“Ond pe bai gwladoli’n digwydd yn Scunthorpe, bydd yna gwestiynau difrifol i Lafur ynghylch pam na chafodd y gweithwyr dur hynny ym Mhort Talbot, gan gynnwys nifer yn fy etholaeth fy hun, fwy o gefnogaeth.

“Unwaith eto, mae’n ymddangos bod Llafur yn hapus iawn i gymryd cymunedau yng Nghymru’n ganiataol.”