Mae cyhoeddiad Andrew RT Davies ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 3) ei fod yn ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi achosi cryn fwrlwm – ac ansicrwydd – ym Mae Caerdydd.
Mae ffynhonnell o fewn y blaid sydd wedi bod yn siarad â golwg360 yn dweud nad ydyn nhw’n “siŵr a all y Blaid Geidwadol fforddio gornest arweinyddol”.
Hyd yma, Darren Millar yw’r unig ymgeisydd sydd wedi cyflwyno’i enw i olynu Andrew RT Davies.
Mae adroddiadau bod rhai o fewn y Grŵp yn y Senedd wedi gofyn i Tom Giffard sefyll, ond y bydd yn cefnogi Darren Millar.
Mae Altaf Hussein, Russell George a Paul Davies hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i Millar.
Dydy Natasha Asghar ddim am sefyll, yn ôl adroddiadau, ac mae disgwyl iddi hithau gefnogi Millar hefyd.
Mae’r blaid yn sicr i’w gweld yn rhanedig erbyn hyn, gyda naw aelod wedi cefnogi’r cyn-arweinydd mewn pleidlais hyder yn ei erbyn, a saith yn ei wrthwynebu.
‘Bradychwyr’
Mae’r Aelodau Seneddol a fu’n pleidleisio yn erbyn Andrew RT Davies mewn pleidlais diffyg hyder wedi cael eu labelu fel “bradychwyr” gan ffynhonnell arall o fewn y blaid.
Fe wnaeth Laura Anne Jones, Gareth Davies, Joel James, Janet Finch Saunders, Paul Davies, Russell George, Mark Isherwood a Darren Millar ei gefnogi.
Ond y rhai oedd yn ei wrthwynebu yw Sam Kurtz, Sam Rowlands, Tom Giffard, Peter Fox, Altaf Hussein, Natasha Asghar a James Evans.
Ar lefel yr aelodaeth genedlaethol, mae hi’n amhosib dweud â sicrwydd llwyr, ond mae’n ymddangos bod yna wahaniaethau mawr mewn safbwyntiau ar bolisïau, gan gynnwys agweddau tuag at ddatganoli.
Dydi hyn ddim yn anarferol i blaid iach a llewryrchus; yn wir, maen nhw’n tueddu i fod yn “garfanau eang” o ran eu safbwyntiau.
Ond yn yr ystyr yma, ac yn dilyn arolwg sy’n awgrymu bod y Ceidwadwyr ryw bedwar pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr agosaf, efallai bod modd deall y feddylfryd tu ôl i beidio bod eisiau cynnal gornest ar gyfer yr arweinyddiaeth.
‘Hapus ei fod e i gyd drosodd’
Roedd yr awyrgylch yn siambr y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 4) yn ddifyr, yn enwedig wrth edrych ar y meinciau Ceidwadol.
Doedd bron neb yn ceisio cynnal sgwrs, heblaw Janet Finch-Saunders, oedd bron ar ysgwydd Andrew RT Davies wrth ddangos ei chefnogaeth iddo.
Mewn sgwrs yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd un o’r aelodau wrth golwg360 yn y Senedd eu bod nhw’n “hapus ei fod e i gyd drosodd”, sy’n awgrym o’r gwrthwynebiad sydd wedi bod y tu fewn i’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd i arweinyddiaeth Andrew RT Davies ers tro.
Ochr arall y geiniog
Ond mae gan Andrew RT Davies ei gefnogwyr o fewn y Ceidwadwyr Cymreig o hyd, gan gynnwys Huw Davies, cadeirydd Ceidwadwyr de-ddwyrain Cymru, sy’n feirniadol serch hynny o’r Grŵp yn Senedd.
Dywed fod y Grŵp wedi “gwrthod newid”, ac wedi cymryd y blaid “yn ôl”.
“Dw i’n gobeithio bod yna ornest werthfawr yn digwydd, yn hytrach na rhyw fath o stitch up,” meddai wrth golwg360.
Roedd yna wahaniaeth yn y ffordd bu aelodau yn pleidleisio yn y bleidlais diffyg hyder ddoe ar sail cynrychioli’r gogledd neu de.
Mae mwyafrif helaeth o’r rhai oedd wedi ei gefnogi yn cynrychioli etholaethau a rhanbarthau yn y de, gyda’r rhan fwyaf o’i wrthwynebwyr yn y gogledd a’r canolbarth.
Ond yn ôl Huw Davies, ideoleg yn hytrach na daearyddiaeth oedd prif ffocws y bleidlais ddoe.
“Y rheol ydi, y mwyaf i’r gorllewin rydych yn mynd y mwyaf i’r chwith rydych yn mynd,” meddai.
Ychwanega ei fod am aros yn aelod o’r Blaid Geidwadol, ond ei fod yn poeni ei fod yn ychydig “o ffigwr Cassandra”, ffigwr Groegaidd oedd yn “rhybuddio am y trychineb sydd i ddod” ond nad oedd “neb yn gwrando” arni.
Mae gan Aelodau’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd tan 5 o’r gloch ddydd Iau (Rhagfyr 5) i gyflwyno’u henwau i fod yn arweinydd nesa’r blaid.
Andrew RT Davies: ‘Rhai unigolion yn barod i achosi stŵr o hyd’
Andrew RT Davies yn camu o’i swydd fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Andrew RT Davies yn ennill pleidlais hyder