Bydd Plaid Cymru’n cyflwyno cynnig gerbron y Senedd heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 4) i wella cyfraddau diagnosis dementia yng Nghymru.
Maen nhw’n honni bod cyfraddau diagnosis isel yn costio biliynau o bunnoedd i’r economi.
Yn 2022, roedd dementia’n gyfrifol am 65,967 o farwolaethau ar draws y Deyrnas Unedig, sef 11% o’r holl farwolaethau.
Dementia, felly, ydy’r clefyd sy’n lladd y nifer fwyaf o bobol yn y Deyrnas Unedig.
“Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu’n gyflym dros y pymtheg mlynedd nesaf – bydd nifer y bobol sy’n byw gyda dementia yng Nghymru yn codi 37% erbyn 2040,” meddai Gemma Roberts, Rheolwr Dylanwadu Cenedlaethol Cymdeithas Alzheimer Cymru.
Ond yn ôl amcangyfrifon y Gymdeithas, mae angen i gleifion yng Nghymru ddisgwyl am dair blynedd a hanner ar gyfartaledd er mwyn derbyn diagnosis wedi i symptomau ddechrau ymddangos.
Yn ogystal, mae’n ymddangos nad yw 44% o’r rheiny yng Nghymru sy’n byw â dementia wedi cael diagnosis.
Mae Plaid Cymru’n honni bod “pobol sy’n byw â dementia heb ddiagnosis yn fwy tebygol o fynychu unedau damweiniau ac achosion brys neu wasanaethau cleifion allanol na’r rhai sydd â diagnosis”, a bod hyn yn costio tua £2.3bn i’r economi.
Yn ogystal, maen nhw’n amcangyfrif y byddai diagnosis cynharach yn golygu arbediad mor fawr â £45,000 y pen drwy ohirio mynediad i gartrefi gofal.
Targedau “beiddgar, uchelgeisiol a chyraeddadwy”
Mae Cymdeithas Alzeihmer a Phlaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau “beiddgar, uchelgeisiol a chyraeddadwy” wrth geisio cynyddu cyfraddau diagnosis.
“Mae’n amlwg bod gwella cyfraddau diagnosis dementia yn hanfodol nid yn unig i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y rhai sy’n byw gyda dementia, ond i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd ac ar awdurdodau lleol,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
“Rhaid i Gynllun Gweithredu Dementia nesaf Llywodraeth Lafur Cymru beidio ag osgoi targedau i wella cyfraddau diagnosis.
“Dylai’r rhai sy’n byw gyda chreulondeb dementia allu cael diagnosis cynnar fel y gallwn eu cadw nhw allan o ysbytai i roi’r gofal sydd ei angen arnyn nhw, a lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.”
“Nawr yw’r amser i flaenoriaethu dementia a datgloi’r gefnogaeth rydym yn gwybod sydd ei hangen yn daer,” meddai Gemma Roberts wedyn.
“Mae hynny’n dechrau gyda chael mwy o bobol yng Nghymru i gael diagnosis.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn darparu £12m y flwyddyn i gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i roi’r cynllun gweithredu dementia ar waith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ymateb i’r ddadl ar lawr y Senedd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ein gwaith i gefnogi pobol sy’n byw gyda dementia yng Nghymru, gan gynnwys gwaith i wella cyfraddau diagnosis.”