Mae Plaid Cymru, y Blaid Werdd a’r SNP yn cyflwyno diwygiad heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3) er mwyn gwrthdroi’r codiad yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol, gafodd ei gyhoeddi yn y Gyllideb fis Hydref.
Mae ail ddarlleniad y mesur, fydd yn cadarnhau’r codiad, yn mynd gerbron Tŷ’r Cyffredin am ail ddarlleniad.
Yn y Gyllideb, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai cyfradd cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol yn codi o 13.8% i 15%, ac y byddai trothwy’r cyflog fyddai’n gymwys yn cwympo o £9,100 i £5,000.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi codi pryderon am effaith y codiad ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, megis meddygon teulu a chartrefi gofal.
Bellach, mae’r gwrthbleidiau wedi cydweithio i gyflwyno diwygiad fyddai’n eithrio gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag elusennau a busnesau bychain, rhag gorfod talu’r dreth ychwanegol.
Mae’r diwygiad yn galw ar Dŷ’r Cyffredin i wrthod y mesur ar sail y pryderon hyn.
‘Niwed economaidd a chymdeithasol’
Mae Plaid Cymru’n honni y bydd codi cyfradd yr Yswiriant Gwladol yn arwain at gost o £318m i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ogystal, mae’r tair plaid yn awgrymu y bydd effaith ddifrifol ar fusnesau bychain ar sail yr £800 o gost fesul gweithiwr mae’r OBR wedi’i amcangyfrif y bydd rhaid i fusnesau ei dalu.
Mae’r pleidiau’n credu y bydd y costau hyn yn arwain at gyflogau is i weithwyr yn y pen draw.
Dywed Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys a chyflwynydd y diwygiad yn wreiddiol, fod cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “bygwth creu niwed economaidd a chymdeithasol yn ein cymunedau”.
“Fe wnaeth y Blaid Lafur addo ‘newid’ ond, yn eu Cyllideb gyntaf, maen nhw wedi cynnig llai o dwf i fusnesau a chyflogau is i weithwyr,” meddai Dave Doogan, llefarydd ar ran yr SNP.
Ffordd “fwy blaengar”
Pwysleisiodd Ben Lake fod ffordd “fwy blaengar a thecach” i godi refeniw’r Llywodraeth y dylen nhw fod yn ei harchwilio.
Cyfeiriodd at ddiwygio’r dreth ar enillion cyfalaf, ac at awgrymiadau am gyflwyno treth gyfoeth.
“Yn hytrach, mae’r Llywodraeth wedi dewis gosod y pwysau ar y rheiny sy’n dioddef fwyaf, mewn cyfnod lle mae straen ariannol ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau,” meddai.
Fe wnaeth Ben Lake ymbil ar yr aelodau seneddol eraill o Gymru i gefnogi ei ddiwygiad.