Mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 3), mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu y bydd ymgynghoriad i gau pedair ysgol wledig yng ngogledd y sir yn newid o fod yn un statudol i fod yn un anffurfiol.
Daw hyn wedi misoedd o anghydfod rhwng y Cyngor Sir, rhieni a staff yr ysgol, ac ymgyrchwyr megis Cymdeithas yr Iaith.
Ar Fedi 3, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo’r cynnig i ddechrau cynnal ymgynghoriad statudol i ddod â’r ddarpariaeth i ben fis Awst 2025.
Cychwynnodd ymgynghoriadau ffurfiol ar Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig yr Wylfa, ac Ysgol Syr John Rees ar Hydref 24, ac ar Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ar Dachwedd 5.
Fe fu sawl cwyn gan Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys cyhuddiadau bod aelodau’r Cabinet wedi camarwain y Cyngor yn ystod y cyfarfod ar Fedi 3, am iddyn nhw honni eu bod nhw wedi derbyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor, wedi gwadu’r cyhuddiadau hyn, ac wedi sôn am eu heffaith ar aelodau’r Cabinet.
Her gyfreithiol
Ar Dachwedd 19, derbyniodd yr awdurdod her ffurfiol ar benderfyniad y Cabinet ar Fedi 3 i gynnal ymgynghoriad statudol ag Awst 31, 2025 fel dyddiad cau arfaethedig.
Yn ôl yr her, doedd hyn ddim yn ymarferol, ac felly byddai angen ailystyried yr ymgynghoriad.
Dyma ddywedodd y cynnig gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor fore heddiw:
“Mae angen i’r awdurdod ystyried a ddylid diwygio penderfyniad y 3ydd o Fedi i wneud y broses bresennol yn un o gyfnod ymgynghoriad anffurfiol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth, yn hytrach nac ymgynghoriad statudol.
“Derbynnid nad yw’r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un y gellir ei chyflawni, ac felly ni ystyrir y gellir gweithredu’r penderfyniad ar y 3ydd o Fedi
“Cynigir, felly, y dylid trin yr ymgynghoriad statudol presennol… fel ymgynghoriad anffurfiol.”
Bydd yr asesiadau sydd wedi’u gwneud eisoes (ar effaith cau’r ysgolion ar y Gymraeg a’r gymuned) yn cael eu diweddaru ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad anffurfiol.
‘Yn boblogaidd neu’n amhoblogaidd’
Wrth adlewyrchu ar yr her, pwysleisiodd Bryan Davies, arweinydd y Cabinet, ei fod e wedi cydnabod yn y cyfarfod ar Fedi 3 y byddai’n agored i unrhyw reswm i atal yr ymgynghoriad pe bai un yn codi yn ystod y broses.
“Rydym ni fel uwch-swyddogion wedi cael ein penodi, a’n dyletswydd ni yw i ddwyn gerbron aelodau etholedig gwybodaeth ar sut i gynnal isadeiledd addysg sy’n effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy, boed hynny’n boblogaidd neu’n amhoblogaidd,” meddai’r Uwch Swyddog Barry Rees, oedd yn destun nifer o’r cyhuddiadau ddaeth yn sgil y cyfarfod.
“Mae’n rhaid i ni dderbyn bod angen gwneud pethau anodd fel rhan o hynny, ond mai dyna yw’n swydd ni fel swyddogion
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond fe wnawn ni barhau i wneud ein gwaith ni yn gydwybodol.”
Gweithdy
Yn ôl y Cynghorydd Elizabeth Evans, mae hanes cau’r ysgolion yn gyfredol yn y wasg ar hyn o bryd, ac fe ofynnodd am ragor o eglurhad ffurfiol mewn gweithdy gan y Cyngor ar draul yr ymgynghoriad.
“Yr unig beth dw i eisiau fel cynghorydd ydy medru sicrhau bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Cabinet yn ddiogel, a’u bod nhw’n ddilys yn wyneb craffu – un ai craffu cyfreithiol neu graffu mewnol,” meddai.
Yn ogystal, gofynnodd hi fod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn hygyrch i’r cyhoedd.
Ymhelaethodd Eifion Evans ar natur y cyhuddiadau yn y wasg, ac ymateb y Cyngor iddyn nhw.
“Fe fyddwn i’n croesawu gweithdy er mwyn dangos i chi a rhoi sicrwydd i chi bod holl staff a swyddogion Cyngor y Sir wedi bod yn broffesiynol, yn gweithio’n gydwybodol, ac yn bwysicach na dim byd arall, yn onest,” meddai.
“Byddai gweithdy yn gyfle euraidd i fi ddangos yn union y broses.”
‘Didwyll’
“Dw i wedi rhoi gwahoddiad agored i unrhyw un i ddod ag unrhyw brawf i fy nesg i er mwyn dangos lle mae aelod o’r staff wedi twyllo neu gamarwain fel sydd wedi cael ei gyhoeddi a’i ysgrifennu yn y wasg,” meddai Eifion Evans wedyn.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi awgrymu bod aelodau’r Cabinet wedi rhoi’r camargraff fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r penderfyniad i ymgynghori.
Mewn e-bost gafodd ei datgelu yn sgil Cais Rhyddid Gwybodaeth, mae’n debyg i swyddog Llywodraeth Cymru awgrymu bod cynlluniau’r Cabinet yn cyd-fynd â’r Cod Trefnidiaeth Ysgolion Cenedlaethol, ond mai dim ond pwyntiau personol, nid rhai cyfreithiol gywir, y gallai’r Llywodraeth eu cynnig.
Fe wnaeth llythyr gan Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ar Dachwedd 19 awgrymu’r un fath.
“Does neb wedi dod ag unrhyw dystiolaeth i fi i ofyn i fi i gael edrych i mewn iddo fe yn ofalus… o ble fedra i fynd i ymchwilio i mewn i ryw fath o dwyll sydd wedi digwydd i chi fel cynghorwyr,” meddai Eifion Evans yn y cyfarfod.
“Mae’n swyddogion ni wedi bod yn hollol ddidwyll.”
‘Annelwig’
“Dw i’n poeni nad yw’r gweinidog addysg wedi gweld yr e-bost yna, ond be mae’n ei ddangos yw… ein bod ni wedi cydymffurfio gyda [phwynt 1.8 yn y cod],” meddai’r Prif Weithredwr wedyn.
Pwynt 1.8 ydy’r “Rhagdybiaeth yn Erbyn Cau Ysgolion Gwledig”.
Dyma oedd y pwynt roedd un o swyddogion gweinidogaeth addysg Llywodraeth Cymru’n awgrymu roedd Cyngor Ceredigion yn cydymffurfio ag e.
“Dyna ddywedwyd ar y pryd,” meddai Eifion Evans.
“Mae’r cod yn un tu hwnt o gymhleth, a thu hwnt o anodd, ac mae e mor annelwig ar hyn o bryd ei fod e gymaint o ben tost i swyddogion ag unrhyw un arall i’w ddehongli a’i ddefnyddio.”
Fe gyfeiriodd at adolygiad o’r Cod sy’n digwydd ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd.
“Dyw e ddim yn deg i ddweud bod pobol broffesiynol yn fwriadol yn ceisio twyllo, ac mae’n gadael eu hôl ar y staff yma fod cyhuddiadau’n cael eu gwneud yn eu herbyn,” meddai.
Mae’n ymddangos y bydd Cyngor Ceredigion yn pwyso ar y Llywodraeth er mwyn creu cod mwy eglur.
‘Siom’
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Davies mai “siom yw hi ein bod ni yma heddiw eto”.
“Mae’n rhaid i ni weithio’n galetach gyda’r swyddogion i wneud yn siŵr bod y dystiolaeth rydyn ni’n ei chael yn gywir,” meddai.
“Mae cymaint o bethau mae llywodraethwyr [yr ysgolion] a ni fel cynghorwyr wedi’u pigo ma’s o bapurau’r Cabinet o’r blaen yn gwbl anghywir.
“Rydyn ni’n dweud wrth swyddogion – ‘Edrychwch, fan hyn mae’r dystiolaeth’ – ond rydych chi’n mynnu, mynnu dweud eich bod chi’n gywir.
“Ni [fel cynghorwyr lleol] sy’n cael y fflac.
“Rydyn ni yma heddiw eto yn ymladd am ein hysgolion bach ni, ein hiaith ni, ein cymuned ni, ac mae e’n ben tost i fi.”
Dywedodd cynghorydd arall fod y cyhoedd wedi colli ffydd yn y Cyngor yn llwyr, a bod angen i unrhyw ymgynghoriad fod yn gyhoeddus o ganlyniad.
‘Dyletswydd gyfreithiol’
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr nad oedd yr un swyddog yn gweithredu er elw personol.
“Mae dyletswydd gyfreithiol arnom ni i sicrhau bod yr isadeiledd addysg yn hyfyw i’r dyfodol,” meddai.
“Dyna beth sy’n rhwystredig… mae e’n fformiwla genedlaethol rydyn ni’n gweithredu arno fe, a phan ydyn ni’n cyflwyno hynny ger eich bron chi, mae’r ddadl yna gennych chi’n lleol, ond er mwyn ein bod ni’n bodloni gofynion y cod, mae’n rhaid i ni roi’r wybodaeth yna ger eich bron chi i chi ei deall.
“Dyw e ddim yn fater bod y swyddogion yn creu rhyw ffigyrau fan hyn a fan draw er mwyn creu rhyw stori… Nid fy rôl i yw amddiffyn y fformiwlâu cenedlaethol.
“Mae swyddogion wedi glynu at ofynion cyfreithiol, a dyna le mae’r anniddigrwydd, yw eich bod chi’n anghytuno gyda rheiny.
“Gwraidd y broblem yw diffyg ariannu teg i awdurdodau gwledig.”
Amserlen
Fe ofynodd y Cynghorydd Rhodri Evans pam fod y Cyngor wedi dewis newid o ymgynghoriad statudol i un anstatudol, o ystyried eu bod nhw “wedi cael sialensiau fel yma o’r blaen, a heb weithredu”.
Ymateb Barry Rees oedd mai’r “unig beth yn yr her sy’n berthnasol i gyfarfod Medi 3 ydy amserlen y bwriad i gau ar Awst 31”.
Byddai hyn, meddai’r cynghorydd, yn rhy gynnar o’i gymharu â’r dyddiad pan fyddai canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu trafod gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2025.
“Er mwyn ymladd yn erbyn her gyfreithiol, mi fyddai angen i ni ddefnyddio swm sylweddol o arian cyhoeddus, a dydy hi ddim yn ddarbodus i fynd i lawr y llwybr hwnnw.
“Mi fyddwn ni’n rhyddhau manylion yr her mewn cyfarfod mewnol.”
Ond dywedodd cynghorydd arall fod yr amserlen wedi’i chodi mewn dau gyfarfod eisoes, a bod sicrwydd wedi’i roi gan y swyddogion fod yr amserlen yn cydymffurfio â’r canllawiau, er gwaethaf pryderon cynghorwyr yn y seddi cefn.
“Mae pethau felly’n effeithio ar ffydd y cyhoedd,” meddai.
‘Adfer ffydd’
“Dw i’n credu bod angen cau pen cwlwm ar y broses ‘ma am nawr, a rhoi cyfle i’r ysgolion adfer – oherwydd mae’r ymgynghoriad yma wedi niweidio’r ysgolion o ddifrif,” meddai’r Cynghorydd Huw Huws.
“Dw i ar ddeall hefyd fod chwe phwynt wedi’u codi yn yr her gyfreithiol, a bod y Cyngor wedi derbyn pob un o’r chwech – nid dim ond ynghylch yr amserlen.”
Dywedodd cynghorwyr eraill fod hynny’n golygu bod y Cyngor wedi colli o 6-0, ac nad oedd datganiadau’r Cabinet yn cyd-fynd â’r wybodaeth gafodd ei chyflwyno gan yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle.
“Yn sicr, mae eithaf tipyn o daflu llwch i’r llygaid heddiw,” meddai Huw Huws.
“Mae’r cyhoedd yn haeddu rhywbeth gwell.
“Mae angen adroddiad annibynnol i’r cyhuddiadau sydd wedi’u gwneud yn erbyn y Cabinet, er mwyn adfer ffydd y cyhoedd.”
Ymateb Cyngor Ceredigion
“Mewn cyfarfod Cabinet gafodd ei gynnal ar Ragfyr 3, 2024, cytunodd Aelodau’r Cabinet i ddiwygio penderfyniad Medi 3, 2024, ac i barhau ar sail ymgynghoriad anffurfiol ar y cynigion i ad-drefnu Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys ac ystyried eu dyfodol,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
“Yn ystod y cyfarfod, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried y penderfyniad, sef i ‘gymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn y bedair Ysgol o Awst 31, 2025’.
“Yn dilyn sialens ffurfiol i’r amserlen a chynnwys y ddogfen ymgynghori a’r asesiadau effaith gysylltiedig, derbyniwyd nad yw’r amserlen gyfredol ar gyfer y broses ad-drefnu yn un mae modd ei chyflawni, ac felly ni fydd modd gweithredu penderfyniad Medi 3, 2024.
“Bydd yr ymatebion gaiff eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori anffurfiol yn cael eu dadansoddi’n briodol.”