Wrth i bobol ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd am y tro cyntaf wythnos nesaf (Mai 6), mae’r farn ynghylch a oes gan bobol ddigon o wybodaeth ar gyfer penderfynu sut i bleidleisio yn amrywio.
Mae disgyblion tair ysgol wedi rhoi darluniau cymysg o’r sefyllfa, ond mae sawl un o’r disgyblion yn credu y dylid dysgu gwleidyddiaeth fel pwnc yn yr ysgol.
Er bod rhai o’r disgyblion wedi derbyn arweiniad ar bleidleisio yn yr ysgol, roedd pob un yn gytûn y dylid gwneud mwy i gynyddu diddordeb pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth.
Angen gwneud mwy i gynyddu diddordeb
“Dw i ddim yn meddwl fod lot o bobol yn gwybod beth yw prif syniadau’r pleidiau,” eglurodd Morgan Barrell, sy’n ddisgybl Lefel A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd, wrth golwg360.
“Ond fi’n meddwl, petaen nhw’n cael hyd yn oed taflen yn dweud beth yw prif polisïau’r pleidiau, byddai hynny’n llawer gwell. Oherwydd wedyn o leiaf maen nhw’n gwybod beth maen nhw am bleidleisio amdano.”
“Yn ein hysgol ni maen nhw wedi ceisio annog ni i arwyddo lan a phopeth,” ychwanegodd Lily Isaac, sydd hefyd yn ddisgybl yn y brifddinas, ac yn cael pleidleisio am y tro cyntaf eleni.
“Ond dw i’n credu bod yna dal deimlad bod pobol ifanc heb ddiddordeb enfawr mewn gwleidyddiaeth, a dw i’n credu dyle mwy gael ei wneud i sbarcio interest ni yn y peth.”
“Chi kind of angen cael diddordeb”
“Fi ddim yn gwybod beth yw’r sefyllfa i rywun sydd ddim efo diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond fi’n credu bod e’n bwysig os ydyn ni’n dysgu pethau fel hanes ac addysg grefyddol, dylai gwleidyddiaeth fod yn rhan o’r system,” meddai Molly Spivey, sy’n ddisgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Edern, ac yn astudio Lefel A mewn gwleidyddiaeth.
“Mae’n effeithio pawb, mae’n effeithio ni fwyaf allan o’r dyniaethau eraill.
“Dw i’n gwybod bod nifer o fy ffrindiau i wedi dweud nad ydyn nhw am bleidleisio, oherwydd nad oes ganddyn nhw ddiddordeb.
“Ond actually, chi kind of angen cael diddordeb mewn gwleidyddiaeth achos mae e am effeithio chi, os yda chi eisiau iddo fe neu ddim.
“Felly, sai’n gwybod beth yw’r sefyllfa am rywun sydd ddim efo diddordeb, ond o ran beth dw i wedi’i weld mae ysgolion wedi gwneud eithaf tipyn,” ychwanegodd Molly wrth siarad gyda golwg360.
“Ond dw i’n credu bod dal angen mwy.”
“Dim digon o wybodaeth”
“Yn pleidleisio am y tro cyntaf eleni, dydw i ddim yn teimlo fod gen i ddigon o wybodaeth ar hyn o bryd i bleidleisio,” meddai Glain Eden, sy’n ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala.
“Dw i am wneud mwy o ymchwil i mewn i’r pleidiau cyn y dyddiad pleidleisio, er enghraifft gwrando ar hystings, darllen erthyglau, a gwrando ar raglenni teledu gwleidyddol.
“Yn anffodus dydan ni ddim wedi cael dim arweiniad ynglŷn â phleidleisio yn yr ysgol, sy’n eithaf siomedig gan fod nifer fawr o ddisgyblion yn anymwybodol o bwyntiau a nodau pleidiau gwleidyddol,” esboniodd wrth golwg360.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n cael digon o gefnogaeth i wneud y penderfyniadau cywir i ni ein hunain.
“Byddai gwneud fideos neu posts ar y cyfryngau cymdeithasol yn syniad da i hyrwyddo pwysigrwydd pleidleisio, hefyd byddai wedi bod yn syniad i bleidiau ganolbwyntio mwy ar bobol ifanc.”
“Bechod” fod pobol yn gadael yr ysgol heb wybodaeth
“Dw i’n meddwl yn bersonol fod gen i ddigon o wybodaeth [i bleidleisio wythnos nesaf], oherwydd dw i’n berson sy’n dueddol o edrych mewn i’r math yma o’r beth,” ychwanegodd Rhys Llewelyn, sydd hefyd yn cwblhau ei Lefel A yn Ysgol Godre’r Berwyn.
“Dw i’n aml yn gwneud ymchwil iddo, a chadw’n hun yn informed, fel petae, ar y newyddion diweddaraf i gyd.
“Ond dw i’n gwybod fod yna lot o bobol hefyd sydd ddim yn yr un sefyllfa â fi, ac sydd efallai ddim yn rhannu’r un diddordeb mewn materion fel yma.
“Dw i’n gadael yr ysgol eleni, a dw i’n teimlo fod o’n bechod bod pobol yn gadael yr ysgol uwchradd fel oedolion a ddim yn gwybod y pethau mwyaf sylfaenol am ein gwleidyddiaeth ni – hynny ydi, be ydi’r chwith a’r dde, be ydi’r gwahaniaeth rhwng y Senedd a San Steffan, sut mae’r system bleidleisio’n gweithio yng Nghymru o gymharu â’r Deyrnas Unedig.”
“A dim jyst pobol ifanc…”
“Mae yna ambell i boster o gwmpas yn annog disgyblion 16 i 18 i bleidleisio, ond yn fwy na hynny – na, dydan ni heb gael unrhyw fath o arweiniad,” eglurodd Rhys Llewelyn wrth golwg360.
“Dw i’n deall bod pleidiau methu marchnata yn uniongyrchol i ysgolion, ond dw i’n meddwl dyla bod yna ryw fath o ymgyrch gan y Senedd i hybu gwleidyddiaeth, ac efallai ei roi o fel rhan o’r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol.
“Mae’n rhywbeth hanfodol y dylai pawb wybod. A dim jyst pobol ifanc, deud gwir, does gan amryw o oedolion dw i’n siarad â nhw ddim syniad am y polisïau mae nhw’n pleidleisio amdanyn nhw.
“Maen nhw just yn pleidleisio am un blaid, achos dyna be maen nhw wedi bod yn ei wneud ers erioed heb feddwl pam, a heb wybod faint mae eu pleidlais nhw werth.
“Dw i’n meddwl fod o’n rhywbeth y dylai pobol fod yn fwy ymwybodol ohono, ac y dylai fod yn rhan o’r cwricwlwm.”
“Bydd rhai heb syniad beth i’w wneud”
“Mae’n anodd siarad dros bawb, ond yn bersonol mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac felly dw i’n gwybod pwy dw i eisiau pleidleisio drostynt, a pha bolisïau dw i’n eu cefnogi,” meddai Swyn Huws, sy’n 16 oed, ac o Drawsfynydd.
“Ond dw i’n adnabod dipyn o bobol sydd ddim efo digon o wybodaeth am y pleidiau gwahanol, ac efallai yn mynd i bleidleisio dros bwy bynnag y bydd eu rhieni nhw’n pleidleisio oherwydd eu bod nhw heb gael y deunyddiau er mwyn gallu ffurfio barn eu hunain.
“Roedd yr hystingau a fynychais ar gyfer yr ardal yma o fudd i allu gwrando ar bawb yn rhoi eu barn nhw, ac yn ddiddorol ofnadwy,” meddai Swyn Huws wrth drafod digwyddiad hystingau ar gyfer pobol ifanc Dwyfor Meirionnydd, a gafodd ei gynnal neithiwr (Ebrill 28), gyda golwg360.
“Er bod yr ysgol wedi rhoi gwasanaeth byr yn dweud pam ein bod ni’n pleidleisio, ac wedi esbonio hanes pleidleisio i ni, dw i’n teimlo efallai y bydd llawer o bobol ifanc 16 oed yn pleidleisio, ac yn gweld y papur pleidleisio am y tro cyntaf, heb unrhyw syniad beth i’w wneud,” meddai Swyn, sydd ym mlwyddyn 11 yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
“Dw i’n lwcus fod mam a dad wedi gallu dangos i fi, ond yn sicr bydd rhai heb syniad beth i’w wneud.
“Felly byddai’n dda gwneud rhywbeth fel bod pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
“Er hyn i gyd, dw i’n edrych ymlaen gael pleidleisio am y tro cyntaf, a dw i’n hapus iawn yn gwybod y bydd fy llais i, a miloedd o bobl ifanc eraill, yn cael eu clywed wrth i ni bleidleisio.”