Gydag ond wythnos i fynd tan etholiad y Senedd mae cynghrair o sefydliadau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati “ar frys” i ddelio ag anghydraddoldeb ym maes iechyd.
Mae 36 corff o sawl maes – gan gynnwys meysydd iechyd a thrafnidiaeth – ynghlwm â’r alwad, ac yn eu plith mae Cymdeithas Feddygol Prydain a’r elusen seiclo, Sustrans Cymru.
Nid yw’r caledi sydd wedi’i achosi gan y pandemig wedi effeithio ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau yn gyfartal, meddai’r gynghrair, ac i rai, mae’r canlyniadau wedi bod yn gwbl ddinistriol.
Mae’r gynghrair yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i:
- Gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol a chynllun i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
- Buddsoddi i atal anghydraddoldebau tymor-hir ym mhob sector, yn arbennig y sector tai, iechyd, addysg, ynni, a thrafnidiaeth.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda phobol a chymunedau er mwyn newid bywydau er gwell.
Daw’r alwad wedi i’r gynghrair ysgrifennu at Mark Drakeford ac arweinwyr y gwrthbleidiau ym mis Chwefror, yn galw am strategaeth i ddelio ag anghydraddoldebau ym maes iechyd.
Wrth ateb, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod fod “anghydraddoldebau iechyd yn codi yn sgil anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd sy’n llunio’r ffordd y mae pobol yn cael eu geni, tyfu, byw, dysgu, gweithio, a heneiddio”.
Roedd yr ateb yn mynd yn ei flaen i ddweud fod effaith gofal iechyd ar anghydraddoldeb ym maes iechyd yn “gymharol fach”.
“Ni fu cymaint o frys erioed”
“Fel doctoriaid, rydyn ni’n gweld effaith gwahaniaethau annheg, ac y gellir eu hosgoi, ar iechyd a llesiant gwahanol grwpiau o bobol,” meddai Dr Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.
“Nid yw’n syndod o gwbl fod y bobol oedd yn dioddef yn barod wedi dioddef yn waeth pan wnaeth y pandemig roi mwy o bwysau ar ein system iechyd.
“Ni fu cymaint o frys erioed i fynd i’r afael ag achosion cymdeithasol anghydraddoldeb iechyd.”
Y pandemig wedi “gwaethygu anghydraddoldebau”
“Mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu anghydraddoldebau oedd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau, ac wedi gwneud hi’n amlwg pa mor bwysig yw cartref saff a chynnes i’n hiechyd a’n llesiant,” meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru.
“Mae tai gwael yn costio mwy na £95 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd mewn costau triniaethau bob blwyddyn.
“Bydd buddsoddi mewn cartrefi sy’n hyblyg, wedi’u cysylltu, yn gynnes, ac yn saff yn gwneud gwahaniaeth anferth er mwyn cadw pobol yn iach, a galluogi i bobol fyw yn annibynnol yn eu cartrefi am gyn hired â phosib.
“Er mwyn ymateb ar frys i raddfa anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, mae gan Lywodraeth nesaf Cymru rôl hanfodol i gydlynu gweithredu gan yr holl bartneriaid a all fynd i wraidd achosion iechyd gwael.”
Angen “agwedd ragweithiol”
“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cymryd agwedd ragweithiol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau gwaelodol sy’n arwain at wahaniaethau mewn hyd bywyd ac ansawdd bywyd yng Nghymru,” ychwanegodd Dr David Bailey, Cadeirydd Cyngor Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain
“Rydyn ni’n gwybod fod posib osgoi nifer o’r anghydraddoldebau, bod posib eu gwella, a bod achos moesol ac economaidd dros fynd i’r afael a nhw heb oedi.”