Mae Aelodau Seneddol wedi gofyn i banel trawsbleidiol o Aelodau Seneddol fynd i’r afael â sut i gywiro sylwadau camarweiniol sy’n cael eu gwneud yn Nhŷ’r Cyffredin.

Daw hyn yn dilyn pryderon gan y gwrthbleidiau fod Boris Johnson yn bod yn anonest yn gyson.

Mae llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, yn cefnogi’r alwad i Bwyllgor Gweithredoedd Tŷ’r Cyffredin edrych ar “sut i gywiro’r gwallau” er mwyn gwella tryloywder.

Mewn cyfarfod gyda chwech o arweinwyr y gwrthbleidiau, dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas AS, fod y rheolau ynghylch gonestrwydd wedi’u llunio ar gyfer cyfnod llai “Trumpaidd”, a chyhuddodd Boris Johnson o “ddweud celwydd yn gyson”.

Mae’r Aelodau Seneddol yn pryderu fod Boris Johnson wedi rhoi datganiadau camarweiniol yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, a bod methiannau i’w cywiro ar record.

Cywiro gwallau

“Fe wnaeth y Llefarydd groesawu’r cyfarfod, a’r cynnig i ofyn i’r Pwyllgor Gweithredoedd edrych ar sut y gallai’r gwallau ymddangosiadol gael eu cywiro,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Llefarydd.

“Roedd e’n gobeithio y byddai mesur o’r fath yn gwella tryloywder yng ngweithredoedd Tŷ’r Cyffredin.”

Mae’r Aelod Seneddol wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn gofyn iddyn nhw ystyried sut y gellir cywiro datganiadau camarweiniol.

Pe bai’r pwyllgor yn cytuno i ystyried y mater, ac yna’n cynnig bod y rheolau’n cael eu newid, byddai’n rhaid i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio o blaid y newidiadau wedyn.

Fis diwethaf, fe wnaeth Lindsay Hoyle ymateb wedi i Boris Johnson gael ei gyhuddo o ddweud celwydd am farn y Blaid Lafur am ariannu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Nid yw’n beth dianrhydeddus i wneud camgymeriad, ond mae ceisio osgoi cyfaddef gwneud un yn fater gwahanol,” meddai’r Llefarydd.

Fe wnaeth swyddog y wasg y Prif Weinidog, Allegra Stratton, wrthod ymddiheuro na chywiro’r sylw pan gafodd ei herio gan ohebwyr am ei sylwadau.

“Heddlua ei weithredoedd ei hun”

“Yn anffodus, dw i’n dweud ei fod e’n dweud celwydd yn gyson,” meddai Caroline Lucas am Boris Johnson.

“Dyma ddyn sydd ddim yn dweud celwydd bob hyn a hyn, mae’n dweud celwydd yn gyson yn Nhŷ’r Cyffredin, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n amhosib i Aelodau Seneddol ei ddal yn atebol.

“Yn y bôn, mae’r rheolau sydd gennym ni wedi’u hysgrifennu ar gyfer cyfnod lle nad oeddem ni’n byw gyda Phrif Weinidog sy’n dangos dirmyg Trumpaidd tuag at y rheolau.”

Dywedodd Caroline Lucas wrth Radio 4 fod y rheolau presennol yn golygu mai cyfrifoldeb gweinidogion yw cywiro’r record, a bod rôl y Llefarydd yn “gyfyngedig iawn”, tra bod y cod gweinidogol wedi’i seilio ar y ffaith mai’r Prif Weinidog yw prif farnwr y safonau.

“Mae hyn yn wirion oherwydd ni wnaeth awduron y cod ystyried y gallai’r Prif Weinidog ei hun dorri’r safonau yn amlwg, felly yn y bôn mae’n cael heddlua ei weithredoedd ei hun.”

Dywedodd y Pwyllgor Gweithredoedd y bydden nhw’n “ystyried unrhyw gais y maen nhw’n ei dderbyn i edrych ar y mater o gywiro gweinidogol yn ystod sesiwn newydd y Senedd.”

Mae mater arall wedi codi heddiw (Ebrill 28), ar ôl i Boris Johnson gyhuddo Keir Stamer o wrthwynebu bargen fasnachu Brexit, er bod Aelodau Seneddol Llafur wedi cael eu hannog i’w gefnogi.

Fodd bynnag, mae swyddog y wasg y Prif Weinidog wedi honni fod Boris Johnson yn gwneud pwynt cyffredinol am farn Llafar ynghylch Brexit.