Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r ffaith y bydd y Comisiwn Etholiadol yn ymchwilio i adnewyddiad fflat Boris Johnson.

Cynyddu mae’r pwysau ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi i gwestiynau gael eu codi ynghylch sut y bu iddo dalu am y gwaith yn Downing Street.

Mae’r Comisiwn wedi dweud bod “yna le i gredu bod i amau bod trosedd neu droseddau wedi’u cyflawni” ac wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bellach wedi croesawu hynny, ac yn gobeithio y daw’r “stori gyfan” i’r fei.

“Dw i’n hynod falch bod y Comisiwn Etholiadol wedi penderfynu gwneud hynny oherwydd mae’n golygu y bydd y ffeithiau cyfan ar gael i’r cyhoedd,” meddai.

“Dros y diwrnodau diwethaf rydym wedi gweld bod y Prif Weinidog, a’r bobol sydd yn siarad ar ei ran, wedi bod yn dewis eu geiriau yn ofalus iawn.

“Maen nhw wedi bod yn dewis geiriau gyda’r nod o gelu’r stori gyfan rhag pobol.”

Cefndir

Wnaeth Boris Johnson a’i ddyweddi, Carrie Symonds, cynnal gwaith adnewyddu ar y fflat uwchben Rhif 11 Downing Street ar ôl symud yno pan ddaeth yntau’n Brif Weinidog ym mis Gorffennaf 2019.

Mae llawer o Brif Weinidogion y gorffennol wedi dewis byw yn y fflat uwchben Rhif 11 yn lle Rhif 10 am fod mwy o le yno.

Mae’r Prif Weinidog yn derbyn £30,000 o’r coffrau cyhoeddus bob blwyddyn i gynnal gwaith adnewyddu ond mae adroddiadau yn awgrymu bod bil yr adnewyddiad cyn uched â £200,000.

Haeriad Llywodraeth San Steffan yw bod Boris Johnson wedi talu am y gwaith o’i boced ei hun, ond mae Dominic Cummings, ei gyn-ymgynghorydd, wedi cynnig naratif sy’n herio hynny.

Mewn blog y cyhoeddodd yr wythnos ddiwethaf, mae’r cyn-ymgynghorydd yn honni bod y Prif Weinidog ar un adeg wedi cynllunio i gael rhoddwyr i dalu am y gwaith.

Byddai hynny, meddai, wedi bod yn “anfoesol, ffôl, anghyfreithlon o bosib, ac yn sicr yn dor-rheolau – rheolau ynghylch sut mae cofnodi rhoddion gwleidyddol – pe bai wedi bwrw ati yn y ffordd y bwriadodd e’ weithredu.”

Mae 10 Downing Street wedi gwrthod dweud os wnaeth y Prif Weinidog dderbyn benthyciad ar y cychwyn i dalu am y costau, ond mae wedi mynnu bod Boris Johnson wedi cadw at y rheolau.

Colofnydd y Daily Mail yn dweud na ellir disgwyl i Boris Johnson “fyw mewn sgip”

Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dweud bod “sail resymol” i amau fod trosedd wedi digwydd