Mae cyflenwr rhannau ceir yn bwriadu cau dwy ffatri ym Mhrydain sy’n cyflogi mwy na 450 o weithwyr, gan gynnwys un yng Ngorseinon.

Dywedodd cwmni o Japan, Toyoda Gosei, ei fod wedi hysbysu ei weithwyr yng Ngorseinon, ger Abertawe, ynghyd â’i weithwyr yn Rotherham yn ne Swydd Efrog, o’i fwriad i gau ei fusnes yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni’n cyflenwi cydrannau selio ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir gan gynnwys Toyota, Honda, ac Aston Martin.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad: “Mae’r cynnig mewn ymateb i newidiadau parhaus yn y sector modurol byd-eang, a gostyngiad sylweddol yn y galw allweddol gan gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.

“Oherwydd y newidiadau hyn, nid yw Toyoda Gosei yn rhagweld twf yn ei fusnes yno ac mae wedi penderfynu gwneud y cynnig hwn.

“Mae ailstrwythuro ei fusnes byd-eang yn un rhan o ymdrechion Toyoda Gosei i sicrhau twf cynaliadwy i’r dyfodol.

“Bydd Toyoda Gosei yn ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i’r newidiadau cynyddol yn yr amgylchedd busnes gyda’r nod o sicrhau twf cynaliadwy i’r dyfodol.”

Dywedodd y cwmni y bydd nawr yn dechrau ar gyfnod ffurfiol o ymgynghori â’i weithwyr ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig.