Mae Arlene Foster wedi cyhoeddi y bydd hi’n ildio’r awenau fel arweinydd y DUP (Democratic Unionist Party).

Mi fydd hi’n camu i lawr fel arweinydd y blaid ar Fai 28, ac mi fydd yn ildio’r awenau yn Brif Weinidog ar ddiwedd mis Mehefin.

Daw hyn yn ymateb i anfodlonrwydd mawr oddi fewn i’w phlaid, ac wedi i aelodau gymryd camau i’w gwthio o’r rôl.

Roedd dros 20 Aelodau Cynulliad DUP yng Ngogledd Iwerddon, a phedwar Aelod Seneddol yn San Steffan, wedi arwyddo llythyr yn cyfleu anniddigrwydd â’r arweinydd.

Camu i lawr

Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad mae Arlene Foster wedi atgyfnerthu ei hymrwymiad i ddatganoli.

“Mae gwasanaethu pobol Gogledd Iwerddon yn Brif Weinidog, a chynrychioli fy etholaeth Fermanagh/South Tyrone, wedi bod yn fraint aruthrol i mi,” meddai.

“Er bod cangen weithredol Gogledd Iwerddon wedi wynebu cyfnodau anodd a heriol, dw i’n dal i gredu bod Gogledd Iwerddon ar ei gorau o gael gweinidogion lleol ar hyn o bryd,” meddai wedyn.

“Mae’n anodd dychmygu sut y gallwn wedi wynebu’r pandemig coronafeirws hwb weinidogion datganoledig ein hunain.”

Nododd y bydd ei hymddiswyddiad hefyd yn golygu diwedd ei gyrfa wleidyddol, gan ddweud ei bod yn paratoi i “ymadael â’r llwyfan gwleidyddol”.

Ymateb

Mae is-lywydd Sinn Fein, Michelle O’Neill, wedi dymuno’n dda i Arlene Foster ar ôl iddi ymddiswyddo fel arweinydd DUP a Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Ms O’Neill, y dirprwy Brif Weinidog: “Siaradais ag Arlene heddiw a rhoddodd wybod i mi am ei phenderfyniad i gamu i lawr. Dymunais yn dda iddi hi a’i theulu.

“Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr ag Arlene Foster y flwyddyn ddiwethaf mewn cyfnod anodd a heriol i bawb gyda dechrau annisgwyl pandemig Covid.

“Drwy gydol y pandemig rwy’n cydnabod yr ymdrechion y mae Arlene Foster wedi’u gwneud fel Prif Weinidog, a’r gwasanaeth y mae wedi’i roi wrth weithio gyda gweddill y Bwrdd Gweithredol wrth i ni frwydro yn erbyn yr argyfwng iechyd mwyaf ers cenhedlaeth.

“Mater i’r DUP bellach yw dewis olynydd.”

Ac mae Taoiseach Iwerddon Micheal Martin hefyd wedi anfon ei ddymuniadau gorau i Arlene Foster ac wedi talu teyrnged i’w rôl wrth “arwain Gogledd Iwerddon drwy’r cyfnod heriol hwn”.

Dywedodd y Taoiseach: “Rwyf am ddymuno’r gorau i Arlene ar gyfer y dyfodol.

“Mae hi wedi gwasanaethu yn ystod cyfnod o newid a her sylweddol yng Ngogledd Iwerddon.

“Mae hi wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd fel cynrychiolydd etholedig ar gyfer etholaeth Fermanagh/South Tyrone.

“Rwy’n gwybod yn arbennig pa mor falch yw Arlene o’i chartref yn Sir Fermanagh.

“Yn aml, nid yw arweinyddiaeth wleidyddol yn hawdd ac mae’n cymryd dewrder.”