Mae bwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwrthod cynnig i gefnu ar enw Saesneg yr Wyddfa, gan danio teimladau cryfion.
Yn ystod cyfarfod fore heddiw, bu aelodau’r bwrdd yn trafod llu o faterion yn ymwneud â’r parc, gan gynnwys cynnig gan John Pughe Roberts.
Mae yntau’n aelod o’r bwrdd, ac yn Gynghorydd Sir yng Ngwynedd, ac mae am i’r parc cenedlaethol roi’r gorau i ddefnyddio’r enwau Saesneg Snowdon a Snowdonia National Park.
Pleidleisiodd mwyafrif yn erbyn ac mae’r cyfarfod wedi esgor ar deimladau cryfion ymhlith aelodau’r bwrdd ac ar-lein.
Mae John Pughe Roberts wedi dweud ei fod yn “siomedig” ag aelodau eraill y bwrdd, tra bod yntau ei hun wedi cael ei gyhuddo o “roi ei gyllell ym Mhlaid Cymru”.
“Cicio’r can i lawr y ffordd”
Mae cynghorydd annibynnol Corris/Mawddwy, yn credu bod angen gweithredu ar frys i ddelio â Seisnigeiddio enwau lleoedd yng Nghymru.
Ac mae’n anhapus gyda’r diffyg cefnogaeth i’w gynnig fore heddiw.
“Dyna oeddwn i’n ei ddisgwyl,” meddai John Pughe Roberts, wrth golwg360. “Mae’n debyg mai cicio’r can i lawr y ffordd wnawn nhw, a gobeithio eith o i ffwrdd, a’i anghofio fo yn y diwedd.”
“O’n i’n siomedig mewn sawl aelod heddiw wnaeth ddim cefnogi’r cais,” atega.
“Roedd yn gyfle iddyn nhw i wneud rhywbeth ynglŷn â fo. Dw i’n frwdfrydig iawn, a dw i’n benderfynol i gael y maen i’r wal efo hwn.”
“Mwya’r byd fyddwn ni’n ei adael o, mwya’ bydd yr enwau fydd yn newid,” meddai wedyn. “Anoddach byd fydd dod ag o nôl.
Cyfiawnhau’r gwrthwynebiad
Mae Elwyn Edwards (Plaid Cymru) yn cynrychioli ward Llandderfel ar Gyngor Sir Gwynedd, a hefyd yn aelod o fwrdd yr Awdurdod, ac mae’n dweud bod yna resymeg ddigon call wrth wraidd y penderfyniad.
“Wnes i bleidleisio yn erbyn cynnig John am y rheswm – mae gynnon ni bwyllgor wedi ei sefydlu … i edrych ar Seisnigeiddio enwau lleoedd yn Eryri,” meddai wrth golwg360.
“Mae John yn gwybod hynny’n iawn … Mae tri ohonom ni arna fo. Mae hwnna’n mynd i gael ei drafod beth bynnag.
“Mae o’n gwybod hyn. Beth mae o’n ei wneud ydy tynnu sylw at ei hun. Mae yna etholiad cyngor sir flwyddyn nesa’ … Yn y bôn, rhoi ei gyllell ym Mhlaid Cymru mae o.”
Alwyn Gruffydd a Judith Mary Humphreys yw dau aelod arall y pwyllgor sydd dan sylw.
Yn ymateb i’r haeriad mai ceisio poenydio Plaid Cymru mae John Pughe Roberts, mae’r cynghorydd annibynnol yn dweud y canlynol: “Dw i ddim yn bleidiol o gwbl”
‘Devil’s Kitchen’ a ‘Bala Lake’
Mae Elwyn Edwards yn cefnogi’r egwyddor o ddad-Seisnigeiddio enwau lleoedd yn Eryri, ac mae’n agored iawn ei farn am y mater.
“Dw i o blaid o,” meddai. “A dw i o blaid cael gwared ar yr holl enwau Saesneg yn Eryri. Mae’r bobol yma’n rhoi eu henwau eu hunain – Devil’s Kitchen ar y Twll Du. Does dim y ffasiwn beth yn bod.
“Rydan ni isio mynd i’r afael â hynna. Sut ydan ni’n mynd i ddod dros hyn? Unwaith mae enw Saesneg yn mynd i fewn mae’n aros ynde.
“Oeddwn ni’n gwrando ar y newyddion Saesneg noson o’r blaen – Bala Lake. Mae’r Parc wedi pasio ers blynyddoedd mai Llyn Tegid ydy o. Mae’r criw yma’n dal i ddefnyddio Bala Lake.”