Gydag etholiad Senedd Cymru i’w gynnal ymhen wythnos, mae Iolo Jones wedi bod yn holi’r ymgeiswyr sydd eisiau llenwi esgidiau un o hoelion wyth y Blaid Lafur…
Ers dechrau datganoli yn 1999 dim ond un person sydd wedi cynrychioli Dyffryn Clwyd yn y Senedd, sef y Lafurwraig Ann Jones.
Dyma etholaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru sy’n gymysgedd o drefi glan môr y Rhyl a Phrestatyn, ynghyd ag ardal wledig sy’n cynnwys Dinbych a Rhuddlan.
Eleni mi fydd Ann Jones yn rhoi’r gorau i gynrychioli pobol y llefydd hyn ym Mae Caerdydd, sy’n golygu y bydd y gystadleuaeth am y sedd hon ychydig yn fwy cyffrous na’r arfer.
Fydd y Blaid Lafur methu dibynnu ar apêl bersonol Ann Jones y tro hwn, ac ochr yn ochr â hynny mae lle i gredu bod y Ceidwadwyr yn peri her go-iawn.
Er mai sedd goch yw Dyffryn Clwyd yn y Senedd, mae’r etholaeth wedi newid dwylo rhwng y Ceidwadwyr a Llafur sawl gwaith yn San Steffan, ac ers 2019 mae’r sedd wedi bod yn las yno.
Mi gwympwyd ‘Y Wal Goch’ – cadarnleoedd Llafur yng ngogledd Cymru a gogledd Lloegr – yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, ac mae rhai’n dyfalu y gall hynny ddigwydd eto yn etholiad Senedd Cymru.
Jason McLellan, cyn-gyfreithiwr, cyn-gynghorydd a chyn-aelod o staff Ann Jones, sydd yn herio Dyffryn Clwyd ar ran Llafur eleni.
Mae’n ffyddiog am ei obeithion, ac mae’n grediniol bod agweddau’r etholaeth at y Blaid Lafur yn parhau’n bositif.
“Oedd, mi’r oedd Ann Jones yn wleidydd gwych, ac mi wnaeth hi jobyn gwych o gynrychioli Dyffryn Clwyd dros 22 mlynedd,” meddai.
“Ond dw i’n credu bod Ann wedi bod yn boblogaidd oherwydd ei bod hi’n Lafurwraig i’r carn. Roedd ei pholisïau Llafur yn taro tant yn Nyffryn Clwyd.
“A dw i’n credu, yn sicr ar y stepen drws, ac o’r canfasio yr ydym yn ei wneud dros y ffôn, bod Llywodraeth Llafur Cymru a Mark Drakeford [y Prif Weinidog] yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.
“[Mae Mark a’i Lywodraeth yn] siarad yn blaen, ac yn onest – sy’n wahanol i’r hyn y gwelwn dros y ffin.”
Mae Jason McLellan hefyd yn credu bod perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng wedi dadwneud unrhyw ogwydd a fu, yn y sedd, tuag at y Torïaid.
“Yn 2019 roedd yna set benodol o ffactorau a arweiniodd atom yn colli rhai pleidleisiau,” meddai. “Ar y stepen drws dw i’n gweld y pleidleisiau yna yn dychwelyd.
“Mae ein pleidlais Llafur yn dod yn ôl, ac yn aros yn gadarn, oherwydd y jobyn da yr ydym yn ei wneud yn ystod y pandemig,” atega.
“Mae Mark Drakeford wedi bod yn siarad yn blaen, yn onest, ac yn ofalus. Ac mae llawer o bobol yn deall ei fod wedi bod yn ein cadw ni’n ddiogel.”
Cafodd Jason McLellan ei eni a’i fagu ym Mhrestatyn, ac mae’n dal i fyw yno hyd heddiw.
Treuliodd llawer o’i yrfa yn gyfreithiwr, yn gweithio yn bennaf ar ran y rheiny sydd methu fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol.
Rhwng 2012 a 2017 roedd yn gynghorydd tref dros Brestatyn, ac yn gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych.
Mae wedi gweithio i Chris Ruane, cyn-Aelod Seneddol Llafur Dyffryn Clwyd, ac Ann Jones.
“Mae gen i broffil fy hun yma, ar ôl bod yn gynghorydd yn yr ardal a fy ngweithgarwch arall,” meddai. “Dw i’n brwydro’r ymgyrch yma fel fi fy hun.
“Bydd pobol yn gwybod bod gen i brofiad o weithio mewn swyddfa brysur Aelod o’r Senedd, a swyddfa brysur Aelod Seneddol. Dw i’n credu bydd hynny o fudd i mi hefyd.”
Mae’n teimlo bod angen rhoi hwb i economi gogledd Cymru a Dyffryn Clwyd, a byddai’n awyddus i fynd i’r afael â hynny pe bai’n cael ei ethol yn Aelod o’r Senedd.
Hoffai weld mwy o gydweithio rhwng busnes ac addysg fel bod pobol ifanc leol yn datblygu sgiliau sydd o fudd iddyn nhw.
Mae’n tynnu sylw’n benodol at ffermydd gwynt, a’r potensial i hyfforddi pobol leol i weithio yn y maes yma.
Neges o obaith i Ddyffryn Clwyd
Yn sefyll tros Blaid Cymru eleni mae Glenn Swingler.
Mae’n gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych, ac ar Gyngor Tref Dinbych; ac wrth ei waith mae yn darparu cymorth iechyd meddwl i oedolion.
Ymhlith y materion sydd bwysicaf iddo mae tai, gofal cymdeithasol, ac anghydraddoldeb.
Hefyd mae’n dweud bod angen mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd “ar frys” ac mae’n credu bod angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhatach yng Nghymru.
Mae ganddo obeithion mawr am Ddyffryn Clwyd, ac mae’n adleisio’r gobaith yn areithiau arweinydd ei blaid, Adam Price, wrth rannu ei weledigaeth.
“Fyddai’r byd ddim yn newid pe buaswn yn cael fy ethol i’r Senedd, ond mi fyddai Cymru yn newid,” meddai. “Ac mi fyddai’n dangos i’r byd beth sy’n bosib. Ac mi fyddai pawb yn Nyffryn Clwyd a thu hwnt yn elwa.
“Adre’ yw Dyffryn Clwyd a Chymru. A hynny, na waeth pwy ydych chi, o le ydych chi’n dod, pa iaith ydych chi’n ei siarad, os oes gennych grefydd ai peidio, a beth bynnag yw eich hunaniaeth.
“Mae gennym bobol dalentog, addysgedig, sydd ag uchelgais ac sy’n benderfynol. Allwn wireddu pethau anhygoel gyda’n gilydd. Pleidleisiwch tros Gymru. Pleidleisiwch tros Blaid Cymru.”
Y sgowt-arweinydd sy’n deisyfu sedd
Mae Lisa Davies yn gynghorydd ar Gyngor Tref Corwen, yn arweinydd grŵp sgowtiaid, a hi fydd yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol eleni.
Roedd hi’n briod ac yn fam i dri cyn ei bod yn 21 oed, ac mae’n dweud mai dim ond yn ddiweddar mae hi wedi dechrau gwireddu ei “hamcanion ac uchelgeisiau ehangach”.
Ennill sedd yn y Senedd yw un o’r uchelgeisiau rheiny, a phe bai’n llwyddiannus mae’n dweud y byddai’n brwydro tros gymunedau’r Gogledd.
“Fydda’ i byth yn stopio ymladd tros hybu cydraddoldeb a thegwch, er mwyn amddiffyn pobol fwyaf bregus y blaned,” meddai.
“Yma yng ngogledd Cymru mae ein cymunedau wedi cael eu taro’n galed gan y coronafeirws.
“Mae angen cymorth mawr ar unigolion, busnesau bach, a’n diwydiant twristiaeth gwerthfawr, er mwyn sicrhau eu bod yn adfer yn sgîl difrod y feirws.
“Pe bawn yn cael fy ethol yn Aelod Democratiaid Rhyddfrydol o’r Senedd tros Ddyffryn Clwyd, mi fuaswn yn gweithio’n ddiflino i flaenoriaethu ein cymunedau yn anad pob dim arall.”
Mae eisiau sefydlu gwasanaeth iechyd meddwl 24 awr y dydd, a fyddai’n helpu’r “rheiny sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan drawma’r flwyddyn ddiwethaf”.
Rhaid adfer strydoedd mawr Cymru a darparu cymorth i fusnesau bach, yn ôl yr ymgeisydd.
Mae hefyd yn credu bod angen “dwysáu’r frwydr i achub ein planed” a bod angen creu miloedd o swyddi gwyrdd i gymryd lle’r swyddi rheiny a gollwyd yn ystod y pandemig.
‘Rhaid i ni gefnogi busnesau’
Athro ac arbenigwr addysg yw ymgeisydd Reform UK (Plaid Brexit gynt) eleni.
Mae Peter Dain yn cynnal gwaith ‘ymgynghori addysg’ ledled gogledd Cymru, a chyn iddo droi at y maes hwnnw roedd yn gweithio ym meysydd technoleg gwybodaeth a chyllid.
Symudodd i Gymru yn 18 oed i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi parhau i fyw yn y wlad fyth ers hynny (ac eithrio cyfnodau ym Manceinion a Llundain).
Mae ei bartner sifil ag yntau wedi mabwysiadu pump o blant, ac mae pob un yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Rhaid i’r Senedd nesa’ fynd i’r afael â chamweinyddu, ym marn yr ymgeisydd.
“Delio gyda’r meysydd sydd wedi cael eu camreoli gan lywodraeth ddatganoledig – dyna fydd y flaenoriaeth bwysicaf i’r Senedd dros y pum mlynedd nesa’,” meddai.
“Mae 20 mlynedd o’r un weinyddiaeth un-blaid wedi gwaethygu problemau sydd eisoes yn bodoli ym meysydd addysg, iechyd, a’r economi.”
Mae’n credu y dylid gohirio cyflwyniad y cwricwlwm addysg newydd, ac y dylid cynyddu’r trothwy ar gyfer treth incwm i £20,000 (felly byddai neb sy’n ennill llai na hynny yn gorfod ei thalu).
Bydd angen cynorthwyo busnesau os yw Dyffryn Clwyd am adfer ar ben arall yr argyfwng, yn ôl yr ymgeisydd.
“Rhaid i ni gefnogi siopau, twristiaeth, tafarndai a bwytai, fel eu bod yn medru gwneud elw wedi iddyn nhw ailagor,” meddai.
“A rhaid i ni gydnabod y niwed sydd wedi bod i’r meysydd yma o’n heconomi. Trethi isel, twf uchel a datblygu busnesau bach – dyna yw’r ffordd allan o’r cyfnod clo.”
Dim “agenda gudd” gan yr ymgeisydd annibynnol
“Gadewch i mi eich gwasanaethu heb agenda gudd” – dyna gais David Thomas i bobol Dyffryn Clwyd.
Mae am sicrhau bod pobol gyffredin yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n eu heffeithio, a bod y Senedd yn gwrando ar ofidion yr etholaeth.
“Yn fy marn i, weithiau mae pobol yng ngogledd Cymru yn cael eu hanghofio,” meddai, “a dw i eisiau newid hynna i bobol Dyffryn Clwyd.
“Dw i eisiau gweithio â phobol, a dod â phobol ynghyd bob mis er mwyn datrys problemau yn gynt. Hoffwn sefydlu sefydliad elusennol er mwyn addysgu, a chynnig cymorth, o ran bwlio a seibrfwlio.
“Dw i eisiau mynd i’r afael â thlodi ymhlith pobol hŷn a thrawsnewid y sustem bwcio apwyntiadau iechyd fel ei bod yn haws i’w deall.
“Hoffwn gefnogi ffermwyr a pherchnogion ceffylau ac anifeiliaid anwes. A hoffwn gefnogi elusennau lleol oddi fewn ein hetholaeth. Dw i eisiau creu pontydd rhwng y cyhoedd a chynghorau.”
Cafodd David Thomas ei eni yn Llanelwy, ac mae’n byw yn y Rhyl.
Bu’n gweithio am flynyddoedd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac ar hyn o bryd mae’n ‘Rheolwr Gweithrediadau’ i gwmni ynni.
Bu Golwg yn gohebu â Gareth Davies, ymgeisydd y Ceidwadwyr, ac mi benderfynodd beidio â chael ei holi.