Mi fydd buddugoliaeth Cei Conna o bedair gôl i un oddi cartref yn erbyn y Seintiau tros y penwythnos wedi dal sylw llawer o bobl pêl-droed. Er mai tîm Andy Morrison yw’r Pencampwyr, mae yna dal deimlad ymysg dilynwyr yr Uwchgynghrair mai’r Seintiau yw’r clwb i guro.