Mae Syr Keir Starmer wedi annog Boris Johnson i ateb cwestiwn syml – pwy dalodd am adnewydd ei fflat? er mwyn dod a diwedd i’r ffrae am y mater.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, sydd ar ymweliad a Manceinion fel rhan o’r ymgyrch etholiadol, bod y ffrae wedi troi’n “dipyn o ffars”.
“Dwi’n credu y gallai’r Prif Weinidog ddelio efo hyn yn gyflym iawn, iawn.
“Y cwbl sydd angen iddo wneud yw ateb cwestiwn syml iawn, sef pwy dalodd am adnewyddu eich fflat?”
“Felly mi alla’i Prif Weinidog ddod a diwedd i hyn rwan, dweud wrthon ni pwy dalodd yn y lle cyntaf, ateb y cwestiwn, byddai’n cymryd tua munud ac wedyn fe allai gario mlaen gyda’i waith.”
Ychwanegodd mai’r “cwestiwn pwysicaf yw: pam nad yw’r Prif Weinidog yn barod i ateb y cwestiwn? Beth mae’n ei gelu?”
Yr ymgynghorydd yn “unigolyn clodwiw”
Yn y cyfamser mae’r gweinidog Nadhim Zahawi wedi mynnu ei bod hi “ond yn iawn” i’r ymgynghorydd newydd ar safonau gweinidogol, yr Arglwydd Geidt, adrodd yn ôl i’r Prif Weinidog mewn ymchwiliadau ynghylch safonau, gan gynnwys yr ymchwiliad i’r arian a gafodd ei wario ar y gwaith i adnewyddu ei fflat yn Downing Street.
Fodd bynnag, mae’r Blaid Lafur wedi dweud fod y trefniant yn golygu fod Boris Johnson yn “marcio ei waith cartref ei hun i bob pwrpas”.
Ymchwiliad yr Arglwydd Geidt fydd y trydydd un ar y mater, wedi i’r Comisiwn Etholiadol ddweud fod “sail resymol” dros amau fod trosedd wedi digwydd, a chyhoeddi eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ffurfiol.
Mae Downing Street wedi dweud bod y Prif Weinidog yn “hapus” i helpu’r ymchwiliad, a fydd yn gweld pwy dalodd am y gwaith cychwynnol, ac a gafodd yr holl wariant ei adrodd yn gywir.
Eisoes, mae’r Prif Weinidog wedi mynnu nad ydi e wedi torri unrhyw reolau na chyfreithiau.
Er hynny, mae’r Blaid Lafur wedi dweud na fydd yr Arglwydd Geidt yn cymryd agwedd gwbl annibynnol, gan fod Boris Johnson yn parhau i fod yn “brif ddyfarnwr” ar y cod gweinidogol, felly bydd hyn yn caniatáu iddo fod yn “farnwr a rheithgor” ar ei ymddygiad ei hun.
Wrth amddiffyn y trefniant, dywedodd Nadhim Zahawi, Gweinidog Brechlynnau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod yr Arglwydd Geidt yn “unigolyn clodwiw iawn”.
“Mae’r holl weinidogion yn gwasanaethu gydag ymddiriedaeth y Prif Weinidog – dw i’n meddwl fod hynny’n gywir, dyna’r system gywir i’w chael,” meddai Nadhim Zahawi wrth BBC Breakfast.
“Felly, d’yw hi ond yn iawn fod y cynghorydd ar y cod gweinidogol yn gallu adrodd yn ôl i’r Prif Weinidog.”
Y Prif Weinidog yn cael y gair olaf
Cafodd yr Arglwydd Geidt ei benodi’n ymgynghorydd ddoe (Ebrill 28), ac mae wedi cael y dasg o “ganfod y ffeithiau sy’n ymwneud” â’r adnewyddu.
Fodd bynnag, nid oes ganddo’r pŵer i lansio ymchwiliadau ei hun, ac mae Rhif 10 wedi cadarnhau y bydd y Prif Weinidog yn cael y gair olaf ynghylch unrhyw dorri safonau.
“Ni all y Prif Weinidog fod yn farnwr ac yn rheithgor ar ymddygiad ei weinidogion – nag ar ymddygiad ei hun,” meddai’r Blaid Lafur.
“Ni ddylai’r Prif Weinidog allu atal ymchwiliadau os yw ei weinidogion, neu ef ei hun, yn torri’r cod gweinidogol.”
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n bennaeth ar y Gwasanaeth Sifil, yn ymchwilio i’r mater hefyd.
Er bod Boris Johnson wedi dweud ei fod wedi talu’n “bersonol” am y gwaith adnewyddu, mae’n gwrthod dweud a wnaeth e dderbyn cyfraniad cychwynnol gan y Blaid Geidwadol i dalu am gostau a allai fod cymaint â £200,000.