Gydag ond wythnos i fynd tan etholiad y Senedd, mi fydd arweinwyr y pleidiau yn mynd benben â’i gilydd mewn dadl deledu byw yn ddiweddarach.
Bydd arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Diddymu’r Cynulliad yn cymryd rhan yn ystod awr gyntaf rhaglen BBC Wales Leaders’ Debate.
Ac mi fydd Reform UK, y Blaid Werdd, ac UKIP yn cymryd rhan yn ystod yr ail ran, hanner awr o hyd.
Dyma ail ddadl deledu’r ymgyrch etholiadol hwn – cynhaliwyd y cyntaf gan ITV Cymru – a daw yn sgil cryn ffraeo ynghylch pwy ddylai gymryd rhan.
Mae’r BBC wedi caniatáu i Blaid Diddymu’r Cynulliad gymryd rhan yn y brif ddadl yn sgil cryn gwyno gan y Diddymwyr. Wnaeth y penderfyniad yma, yn ei dro, danio gwrthwynebiad gan Blaid Cymru.
Bu’r Gwyrddion hefyd yn cwyno am nad oedd gwahoddiad iddyn nhw yn wreiddiol ac mi wnaeth y Ceidwadwyr ochri â nhw. Mae’r Blaid Werdd yn parhau’n anhapus â’r fformat.
Bydd y ddadl deledu yn cael ei darlledu am 20.30 yr hwyr ar BBC One Wales a BBC iPlayer.
Yr arweinwyr
- Llafur: Mark Drakeford
- Ceidwadwyr: Andrew RT Davies
- Plaid Cymru: Adam Price
- Democratiaid Rhyddfrydol: Jane Dodds
- Plaid Diddymu’r Cynulliad: Richard Suchorzewski
- Reform UK: Nathan Gill
- Y Blaid Werdd: Amelia Womack
- UKIP: Neil Hamilton