Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd , wedi galw ar y BBC i ailfeddwl am eu penderfyniad i eithrio’r Blaid Werdd o ddadl deledu’r Arweinwyr.

Meddai Andrew RT Davies, AoS Canol De Cymru: “Mae rhai o’r penderfyniadau a wnaed gan y BBC o ran eu rhestr ar gyfer dadl yr Arweinwyr wedi bod yn rhyfedd a dweud y lleiaf.

“Mewn etholiad cenedlaethol gydag elfen o gymesuredd mae’n ymddangos yn rhyfedd, os nad braidd yn hurt, nad yw’r Gwyrddion wedi cael eu gwahodd.

“Dim ond ym mis Ionawr, roedd y Blaid Werdd yn pleidleisio’n uwch na’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac eto maen nhw’n cael eu heithrio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llwyfan.

“Dylai’r BBC ail-ystyried y penderfyniad hwn a gwahodd y Blaid Werdd i ddadl yr Arweinwyr.”