Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod yna 189 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi heddiw.

Mae hynny yn golygu fod by cyfanswm yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r pandemig wedi cyrrraedd 209,816.

Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw hefyd, bu farw wyth yn rhagor o bobl hyd at echdoe sef dydd Sadwrn, Ebrill 3.

Nid yw’r ffigwr yna wedi cael ei ddiweddaru oherwydd gwyliau’r Pasg.

Wythnosol

Hefyd dengys y ffigrau mai cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru yw 5,519 – hyd at echdoe, dydd Sadwrn, Ebrill 3.

Nid yw’r ffigwr yna, chwaith, heb gael ei ddiweddaru.

O’r achosion newydd roedd 47 yng Nghaerdydd, 22 yn Abertawe, 15 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 14 yn Rhondda Cynon Taf a 10 yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r gyfradd achosion wythnosol fesul 100,000 o’r boblogaeth yn is eto, ar 28.1 o’i gymharu â 31.2 ddydd Sadwrn.

Roedd y gyfradd ar ei huchaf yng Ngwynedd a Môn, gyda 55.4 a 51.4, gydag Abertawe ar 49, a Chastell-nedd Port Talbot a Merthyr Tudful ar 48.1.

O’r marwolaethau newydd roedd pump yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac un yr un yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Phowys.