Mae o leiaf 73 o bobl wedi eu lladd a miloedd o bobl eraill wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Indonesia oherwydd llifogydd a thirlithriadau.

Llifodd tunnelli o fwd i lawr o fryniau cyfagos i ddwsinau o gartrefi ym mhentref Lamenele yn fuan ar ôl hanner nos ddydd Sul ar ynys Adonara yn Nwyrain Nusa Tenggara.

Canfuwyd 38 o gyrff gan achubwyr ac anafwyd o leiaf bump o bobl.

Lladdwyd o leiaf 33 o bobl mewn mannau eraill ac mae o leiaf 70 ar goll.

Gorlifo

Yn y cyfamser, bu farw 27 o bobl yn Nwyrain Timor.

Rhwystrwyd ymdrechion achub oherwydd torriadau yn y cyflenwadau pŵer, yn ogystal â ffyrdd wedi’u rhwystro gan fwd trwchus.

Cafodd cyrff tri o bobl eu canfod ar ôl llifogydd ym mhentref Oyang Barang, lle cafodd 40 o dai eu dinistrio hefyd. Bu’n rhaid i gannoedd o bobl ffoi o’u cartrefi.

Mewn pentref arall, Waiburak, lladdwyd tri o bobl ac roedd saith ar goll ar ôl glaw dros nos yn achosi i afonydd orlifo gyda dŵr mwdlyd yn gorchuddio ardal East Flores.

Achosodd y glaw hefyd i lafa oer fynd i lawr llethrau folcanio Ili Lewotolok a tharo sawl pentref.

Effeithiwyd ar o leiaf naw pentref gan lifogydd fflach a thirlithriad a ddifrododd bum pont ar ynys Lembata.