Mae gweddw cyn golwr rhyngwladol Cymru, Dai Davies, wedi gwneud apêl am gefnogaeth i’r hosbis a fu’n gofalu amdano yn ystod ei fisoedd olaf.

Enillodd Dai Davies 52 o gapiau dros Gymru, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Hwngari ym mis Ebrill 1975 – buddugoliaeth o addwy gol i un.

Roedd yn rhan o’r tîm a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Cenhedloedd Ewrop yn 1976, a’i ymddangosiad olaf dros Gymru oedd gêm yn erbyn Ffrainc ar 2 Mehefin 1982.

Bu farw Dai Davies yn 72 oed o ganser y pancreas yn ei gartref yn Llangollen ym mis Chwefror, ar ôl derbyn gofal yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.

Cafodd ei drosglwyddo i’r hosbis o Ysbyty Brenhinol Lerpwl er mwyn iddo allu gweld ei deulu a derbyn y ffisiotherapi a’i helpodd i ddysgu cerdded eto.

Dai Davies yn dysgu cerdded eto

A nawr mae ei wraig Judy Davies yn cefnogi ei ymgyrch codi arian Adeiladu Balŵn, yn ogystal â chanmol cefnogwyr a noddwyr corfforaethol – gan gynnwys Ifor Williams Trailers.

Bydd yr ymgyrch Adeiladu Balŵn, yn gweld balŵn aer poeth yn esgyn i’r awyr ynghyd â phaneli noddwyr.

Mae’r pandemig wedi taro gweithgareddau codi arian Tŷ’r Eos, sy’n darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol i bobol â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd.

Mae’n costio £3.4 miliwn y flwyddyn i redeg yr hosbis ac mae 80% o’r arian yn dod o weithgareddau codi arian.

“Rwy’n gwerthfawrogi cymaint o gefnogaeth y mae Ifor Williams Trailers a’r holl noddwyr gwych eraill yn ei rhoi i’r hosbis,” meddai Judy Davies.

“Mae’r hosbis yn dibynnu i raddau helaeth ar godi arian a rhoddion i gyflawni ei gwaith ac rwyf wedi gweld fy hun pa mor bwysig yw’r gwaith hwn yn y cyfnod y cafodd Dai gefnogaeth a chymorth Tŷ’r Eos.

“Byddai’n hyfryd pe bai pobl yn gallu cefnogi apêl Adeiladu Balŵn gan mai’r wythnos hon yw wythnos olaf yr ymgyrch cyn i’r balŵn gael ei gynhyrchu yn Sbaen.”

“Cefnogaeth ryfeddol”

Ychwanegodd Judy Davies: “Fe wnaeth dyddiau Dai yn Nhŷ’r Eos a’r gofal a’r gefnogaeth ryfeddol a gawsom ein dau pan oedd yn glaf dydd hefyd wella ansawdd ei fywyd yn fawr iawn yn ystod ei fisoedd olaf.

“Rwyf hefyd yn teimlo fod hynny wedi helpu i ymestyn yr amser gwerthfawr yr oedd gennym ar ôl gyda’n gilydd a byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb yn Nhŷ’r Eos am y gofal a gafodd.

“Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth er enghraifft, pan gyrhaeddodd roedd rhywun mor garedig â rhoi fâs fach o bys melys ffres o ardd yr hosbis ar fwrdd ei wely.

“Roedd Dai wedi bod yn yr ysbyty ers sawl wythnos, felly roedd dod i Tŷ’r Eos yn teimlo fel cyrraedd gwesty pum seren iddo.

“Roedd yn hyfryd ei gael adref yn y pen draw a gwnaed y profiad hwnnw’n bosibl gan y gofal a’r sylw a roddwyd i ni i gyd fel teulu gan dîm Tŷ’r Eos.”

“Gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi”

Mae Ifor Williams Trailers yn cefnogi’r hosbis ac wedi taflu ei bwysau y tu ôl i’r ymgyrch Adeiladu Balŵn.

Mi soniodd Lois Wynne, o’r cwmni, am y berthynas sydd wedi’i datblygu rhwng y ddau sefydliad.

“Mae Tŷ’r Eos yn achos mor hyfryd a phwysig rydym wedi bod yn ei gefnogi ers sawl blwyddyn,” meddai.

“Mae’r ymgyrch balŵn unwaith eto yn rhywbeth rydyn ni’n hapus iawn i’w gefnogi a byddem yn annog unrhyw un sy’n gallu cymryd rhan i wneud hynny.

“Mae wedi bod yn bleser cyfarfod efo Judy ac mae’n braf clywed cymaint y mae’n gwerthfawrogi’r hyn a wnaeth yr hosbis i’w gŵr, Dai.

“Mae’r hosbis yn gwneud llawer o waith pwysig iawn ac rydyn ni yn Ifor Williams Trailers yn awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i’w chefnogi.”

“Diolchgar iawn”

Ychwanegodd Sarah Povey, codwr arian cymunedol a digwyddiadau Tŷ’r Eos: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym yn ei derbyn gan ein noddwyr corfforaethol, gan gynnwys Ifor Williams Trailers.

“Rydym wedi mwynhau perthynas dda efo Ifor Williams Trailers ers blynyddoedd lawer ac mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei roi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ni.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar am eiriau caredig Judy wrth sôn am yr hosbis.

“Ein nod yn Nhŷ’r Eos yw ceisio mynd yr ail filltir i helpu ein cleifion gymaint ag y gallwn.”

Cofio’r ‘cawr cyfeillgar’ Dai Davies

Sgwrs gyda Dylan Ebenezer am ei “gydweithiwr, ffrind ac arwr”, Dai Davies, cyn-golwr Cymru, sydd wedi marw’n 72 oed