Mae toriad o 85% i gyfraniad y Deyrnas Unedig tuag at asiantaeth iechyd rhywiol ac atgenhedlol y Cenhedloedd Unedig wedi’i ddisgrifio fel penderfyniad “dinistriol” i fenywod, merched, a’u teuluoedd ledled y byd.

Mae Cronfa Boblogaeth y Cenhedloedd Unedig (yr UNFPA) wedi dweud fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrannu £23 miliwn i’w rhaglen cynllunio teulu eleni, o gymharu â’r £154 miliwn y llynedd.

Daeth manylion ynghylch y toriadau i’r amlwg wrth i’r Llywodraeth wynebu beirniadaeth am dorri eu hymroddiad i wario 0.7% o’i incwm cenedlaethol ar gymorth tramor, a gostwng y ganran i 0.5%.

Dywedodd yr UNFPA fod hyn yn “mynd yn ôl ar yr ymroddiad a gytunwyd” llynedd, ac y byddai’r arian wedi cael ei ddefnyddio i atal degau o filoedd o ferched yn eu harddegau rhag colli’u plant ar enedigaeth, a rhag marw wrth eni plentyn.

Byddai’r arian hefyd wedi atal miliynau o ferched rhag beichiogi yn anfwriadol, ac atal miliynau o erthyliadau peryglus, yn ôl yr UNFPA.

Yn ogystal, dywedodd y sefydliad y bydd toriadau pellach o £12 miliwn i “gronfeydd gweithredoedd craidd” yr UNFPA, ac y bydd cytundebau nifer o wledydd yn debygol o gael eu heffeithio.

“Trueni mawr”

Disgrifiodd prif weithredwr yr UNFPA y penderfyniad fel un sy’n “drueni mawr”.

“Bydd y toriadau yma yn ddinistriol i fenywod a merched, a’u teuluoedd, dros y byd,” dywedodd Dr Natalia Kanem.

“Gyda’r £130 miliwn sydd wedi’i dynnu’n ôl, byddai Partneriaeth Gyflenwi’r UNFPA wedi gallu helpu i atal tua 250,000 o farwolaethau mamau a phlant, atal 14.6 miliwn o ferched rhag beichiogi’n anfwriadol, ac atal 4.3 miliwn erthyliad peryglus.

“Mae’r UNFPA yn cydnabod y sefyllfa heriol sy’n wynebu nifer o’r llywodraethau sy’n rhoi rhoddion, ond mae penderfyniad partner a hyrwyddwr sefydlog i gamu oddi wrth ei ymroddiad ar adeg pan mae anghydraddoldebau yn gwaethygu yn drueni mawr.

“Y gwir yw, pan mae’r cyllid yn stopio, mae merched a menywod yn dioddef – yn enwedig y tlawd, rhai sy’n byw ymhell o bob man, cymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu, a rhai sy’n byw drwy argyfyngau dyngarol.”

Mae’r sefydliad yn dweud eu bod nhw’n dibynnu ar “gefnogaeth barhaus y gymuned ryngwladol”, ac yn galw ar eu holl “bartneriaid a chynghreiriaid i ddod at ei gilydd”.

“Ergyd ddwbl”

Fe wnaeth y Fonesig Sugg ddisgrifio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel “ergyd ddwbl” i bobol dlotaf y byd.

“Mae hwn yn arian y mae’r Deyrnas Unedig wedi addo ei roi yn siambr y Cenhedloedd Unedig, addewid a gafodd ei wneud o flaen cynrychiolwyr o bob gwlad yn y byd, rydyn ni’n gadael cytundeb wedi’i lofnodi, rhywbeth nad ydych chi’n clywed amdano,” meddai’r Fonesig Sugg.

Dywedodd wrth Radio 4 fod y ffaith fod y Cenhedloedd Unedig wedi gwneud datganiad yn dweud y byddai’r arian wedi atal marwolaethau, ac atal miliynau o ferched rhag beichiogi’n anfwriadol, yn rhywbeth “hollol newydd”.

“Dw i’n llwyr gydnabod yr amseroedd anodd iawn y mae nifer o bobol yn y wlad yn eu hwynebu, ond mae faint ydyn ni’n ei wario ar gymorth wedi’i gysylltu’n barod â chryfder ein heconomi.

“Felly, os yw ein heconomi’n crebachu, fel sydd wedi digwydd oherwydd y coronafeirws, mae’r swm rydyn ni’n ei wario ar gymorth yn disgyn yn awtomatig – mae’n cael ei gywiro’n naturiol, os hoffwch chi.

“Eleni, mae yna fath ychwanegol o doriadau anferth oherwydd y newid polisi, felly mae’n ergyd ddwbl i bobol dlotaf y byd.”

“Bradychu menywod a merched”

Mae elusen Plan International UK wedi condemnio’r toriadau, gan ddweud ei fod yn “benderfyniad gwarthus a fydd yn arwain at ddegau o filoedd o ferched a menywod yn marw’n ddiangen yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth”.

“Mae’r toriadau hyn yn bradychu menywod a merched dros y byd,” meddai Rose Caldwell, prif weithredwr yr elusen.

“Rydyn ni’n annog y Llywodraeth i weld synnwyr, ac ailgyflwyno’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn.”

Y cyhoedd “yn deall”

Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd y cyhoedd “yn deall” fod rhaid gwneud toriadau i gymorth tramor yn sgil pwysau’r pandemig.

“Rydyn ni’n dal i wario £10 biliwn y flwyddyn ar gymorth tramor, mae hynny’n swm anferth,” meddai’r Prif Weinidog.

“Rydyn ni’n parhau i fod yn un o roddwyr mwyaf y byd, a dw i’n meddwl y dylai pobol yn y wlad hon fod yn falch iawn o hynny.

“Ond dw i hefyd yn meddwl y bydden nhw’n deall, a dw i’n gwybod y bydd gwledydd eraill o amgylch y byd yn deall, fod pwysau penodol gan y pandemig yn golygu fod rhaid cynilo yn y ffordd hon.

“Rydych chi’n gofyn i mi os fyddwn ni’n cynyddu’n ôl i 0.7% – mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir o’r dechrau gan ddweud y byddwn ni’n gwneud hynny pan fydd hi’n gall i gwneud hynny’n ariannol, pan fydd gennym ni le i wneud hynny.”