Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi ymadawiad y batiwr Charlie Hemphrey.

Mae’r chwaraewr a’r clwb wedi cytuno i ddirwyn ei gytundeb i ben yn dilyn sefyllfa anarferol ynghylch ei hawl i gymhwyso i chwarae dros Loegr – er ei fod e’n enedigol o Doncaster yn Swydd Efrog.

Ymunodd e â Morgannwg yn 2019, ac roedd ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.

Chwaraeodd e mewn 13 o gemau dosbarth cyntaf, gan sgorio 608 o rediadau, gan gynnwys pum hanner canred, ac fe chwaraeodd e mewn wyth o gemau undydd Rhestr A.

Cymhwyso i chwarae dros Loegr

Er iddo fe gael ei eni yn Lloegr, mae’n cael ei ystyried yn chwaraewyr nad yw’n gymwys i chwarae dros Lloegr.

Yn ychwanegol at hynny, mae diffyg cyllideb Morgannwg a diwedd ar y drefn Kolpak – lle mae chwaraewyr yn cefnu ar griced rhyngwladol er mwyn chwarae mewn gwlad arall heb gael ei ystyried yn chwaraewr tramor – yn golygu eu bod nhw bellach yn awyddus i ddenu chwaraewyr domestig yn bennaf.

Roedd Hemphrey wedi bod yn galw am drugaredd o ganlyniad i’w amgylchiadau unigryw fel Sais, ond mae’n ymddangos nad oedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn fodlon ildio a phlygu’r rheolau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae e wedi cyhuddo’r awdurdodau o “derfynu” ei yrfa.

Gyrfa

Roedd e’n aelod o Academi Caint ar ddechrau ei yrfa, cyn cael ei ryddhau a cheisio cytundeb gyda sawl sir arall.

Symudodd e i Brisbane yn 24 oed a dechrau gweithio fel cludwr bagiau ym maes awyr y ddinas ac erbyn hynny, roedd hi’n ymddangos fel pe bai ei freuddwyd o fod yn gricedwr proffesiynol yn deilchion.

Ond fe gafodd ei le yn nhîm Brisbane yn 2015, a fe oedd y Sais cyntaf i daro canred yn y Sheffield Shield ers John Hampshire yn 1978.

Erbyn hynny, roedd e wedi cael yr hawl i fod yn fyw yn Awstralia’n barhaol.

Roedd e, felly, yn chwaraewr domestig yn Awstralia sy’n golygu ei fod e’n dramorwr y tu allan i’r wlad – gan gynnwys gwledydd Prydain.

O ganlyniad, fe fu’n rhaid iddo fe dreulio tair blynedd yn cymhwyso wrth chwarae i Forgannwg, ond fyddai e ddim wedi bod yn gymwys tan o leiaf ddechrau tymor 2022 – ond mae e wedi bod ar y cyrion ers peth amser bellach, wrth i Forgannwg ganolbwyntio ar eu chwaraewyr Cymreig a’r rhai sydd â phasbort Prydeinig.

‘Agored a gonest’

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae’r clwb a’r chwaraewyr wedi cynnal trafodaethau “agored a gonest” ynghylch y sefyllfa.

“Mae’r gwobrau am ddewis cricedwyr sy’n gymwys yn ddomestig yn fwy nag erioed ac o ganlyniad, roedden ni’n agored a gonest â Charlie wrth ddweud wrtho fe y byddai’n rhaid bod hynny’n ystyriaeth wrth ddewis [timau] yn y dyfodol,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael rhai sgyrsiau hir gyda Charlie i ddod o hyd i’r ateb gorau i bawb ac, o’r diwedd, rydym wedi cytuno i siglo’i law ar weddill ei gytundeb gyda’r clwb.

“Roedd Charlie yn aelod poblogaidd iawn o’r garfan ac mae e wedi bod yn ddylanwad positif dros ben ar y clwb ers iddo fe ymuno â ni.

“Mae pawb ym Morgannwg yn dymuno’n dda iddo fe a’i deulu yn y dyfodol.”

‘Diolch am y cyfle’

Mae Charlie Hemphrey wedi diolch i’r clwb “am roi’r cyfle i fi chwarae criced sirol”.

“Ro’n i wrth fy modd yn chwarae i’r clwb, byw yng Nghymru ac allwn i ddim bod wedi gofyn am well gyd-chwaraewyr.

“Pan ddaeth y rheoliadau newydd i rym, dyma oedd y canlyniad mwyaf tebygol, ond hoffwn ddiolch i’r clwb am eu cefnogaeth ar adeg anodd.

“Bydda i’n cefnogi’r clwb o Brisbane, a bydda i’n gefnogwr Morgannwg am weddill fy oes.”

Charlie Hemphrey

Cyfweliad: Charlie Hemphrey, batiwr newydd Morgannwg

Cafodd ei wrthod gan sawl sir yn y gorffennol cyn ymuno â Morgannwg