Mae swyddogion Llywodraeth Prydain wedi wfftio’r awgrym y gallai Iran dderbyn £400m yn gyfnewid am adael Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn rhydd o’r carchar.

Daw hyn wrth i’w gŵr Richard Ratcliffe ddweud nad yw e na’r teulu wedi clywed unrhyw beth newydd am y sefyllfa.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae “trafodaethau cyfreithiol ar y gweill”.

Mae teledu Iran wedi gwneud honiadau tebyg o’r blaen ei bod hi ar fin gadael y ddalfa.

Bu ei theulu’n ymgyrchu i ddod â hi adref ers 2016.