Mae Morgannwg wedi curo Caint o ddeg wiced ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Caint yng Nghaerdydd – wrth i ddau fowliwr sydd ag oedran o 84 rhyngddyn nhw gipio pum wiced yr un – y naill i Forgannwg a’r llall i Gaint.

Hon yw buddugoliaeth gynta’r sir y tymor hwn.

Cipiodd Darren Stevens ei bum wiced yntau i’r ymwelwyr wrth fowlio Morgannwg allan am 197, 59 rhediad yn fwy na chyfanswm batiad cyntaf Caint.

Daeth pum wiced Michael Hogan wrth i Gaint gael eu bowlio allan am 74, gan adael nod o 16 i Forgannwg.

Serch hynny, llwyddodd Caint i osgoi’r embaras o gofnodi eu sgôr gwaethaf erioed yn erbyn Morgannwg – 49 i gyd allan yn Abertawe yn 1949.

Dechrau gwael i fatwyr Morgannwg

Cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus ar ail fore’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Caint wrth golli tair wiced o fewn hanner awr cyn i’r glaw ddod.

Dechreuon nhw ar 109 am ddwy – dim ond 29 rhediad y tu ôl i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr, cyn colli tair wiced yn ystod hanner awr cynta’r bore cyn i’r glaw ddod.

Ar ei ben-blwydd yn 45 oed, tarodd Darren Stevens goes David Lloyd o flaen y wiced am 62 i ddod â phartneriaeth o 87 gyda Billy Root i ben – yr olaf ohonyn nhw’n mynd y tu hwnt i 2,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Ond roedd gwaeth i ddod, wrth i Matt Milnes gipio dwy wiced mewn dwy belen. Tarodd e goes Root o flaen y wiced am 37 cyn bowlio’r capten Chris Cooke oddi ar ei belen gyntaf, a Morgannwg yn 129 am bump pan ddaeth y glaw.

Ar ôl oedi hir a chinio cynnar yn sgil y glaw, dechreuodd sesiwn y prynhawn yn wael i Forgannwg wrth i Kiran Carlson gael ei ddal yn y slip gan Zak Crawley oddi ar fowlio Stevens, a’r tîm cartref yn 140 am chwech.

Roedden nhw’n 148 am saith o fewn dim o dro wrth i Milnes daro coes Callum Taylor o flaen y wiced, ac yn 159 am wyth pan gafodd Timm van der Gugten ei ddal gan y wicedwr Ollie Robinson wrth i Darren Stevens gipio’i bumed wiced.

Dyma’r degfed tro ar hugain iddo fe gipio pum wiced mewn batiad – a phob un ohonyn nhw ers iddo fe droi’n 34 oed.

Ychwanegodd James Harris a Lukas Carey 29 am y nawfed wiced cyn i Carey gael ei fowlio gan Miguel Cummins, a’r sgôr yn 188 am naw, a daeth y batiad i ben ar 197 pan gafodd Michael Hogan ei ddal gan Milnes yn y slip oddi ar fowlio Fred Klaassen.

Michael Hogan ar dân cyn ac ar ôl te

Roedd Caint 59 rhediad ar ei hôl hi ar ddechrau’r ail fatiad, a Morgannwg gafodd y gorau o’r pelawdau cynnar, wrth i Michael Hogan gipio tair wiced mewn tair pelawd yn olynol.

Fe wnaeth e daro coes Jordan Cox o flaen y wiced am chwech, cyn i’r capten Daniel Bell-Drummond gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke, a’r ymwelwyr yn 19 am ddwy yn yr wythfed pelawd.

Roedden nhw’n 30 am dair pan gafodd Zak Crawley ei fowlio am un, ac yn 30 am bedair ar ôl i David Lloyd, â’i belen gyntaf, daro coes Joe Denly o flaen y wiced am ddeg.

Erbyn amser te, daeth cawod o law i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae ychydig o belenni’n gynnar a’r sgôr yn 32 am bedair.

Aeth sefyllfa Caint o ddrwg i waeth ar ôl te, wrth i Ollie Robinson gael ei ddal gan Cook oddi ar fowlio Hogan, wrth iddo fe gipio’i bedwaredd wiced, a’r ymwelwyr yn 41 am bump ar ôl 16 pelawd.

Cipiodd ei bumed wiced wrth daro coes Jack Leaning o flaen y wiced am wyth, a’i dîm yn 46 am chwech, ac roedden nhw’n 54 am saith pan gafodd Stevens ei fowlio gan David Lloyd heb sgorio.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 72 wrth i Timm van der Gugten daro coes Heino Kuhn o flaen y wiced, ar ôl i’r batiwr fod yn batio â rhedwr o ganlyniad i anaf i’w goes.

Daeth y dwy wiced olaf yn yr un belawd i James Harris wrth iddo fe daro coes Matt Milnes o flaen y wiced am 12 cyn bowlio Fred Klaassen, a’r ymwelwyr i gyd allan am 74, gan osod nod o 16 i Forgannwg.

Gyda Joe Cooke ben draw’r llain, roedd David Lloyd heb fod allan ar 19 ar ôl sgorio’r holl rediadau i gyrraedd y nod.

David Lloyd

David Lloyd yn serennu i Forgannwg yn erbyn Caint yng Nghaerdydd

Y chwaraewr amryddawn o’r gogledd wedi cofnodi ei ffigurau bowlio gorau erioed cyn taro hanner canred

Sgorfwrdd