Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddiwedd diwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Caint yng Nghaerdydd.

Ar ôl bowlio’r ymwelwyr allan am 138 yn y batiad cyntaf ar lain sy’n cynnig cryn dipyn o gymorth i’r bowlwyr, roedd y tîm cartre’n 109 am ddwy ar ddiwedd y chwarae – dim ond 29 o rediadau ar ei hôl hi ag wyth wiced yn weddill.

Cipiodd David Lloyd bedair wiced am 41 – ei ffigurau gorau erioed yng nghrys Morgannwg – cyn mynd yn ei flaen i wneud cyfraniad allweddol gyda’r bat.

Dechrau da i’r ymwelwyr

Daeth cyfle am ddaliad i Chris Cooke ddal y capten Daniel Bell-Drummond oddi ar fowlio Michael Hogan, wrth i’r bêl lanio rhyngddo fe a’r slip ond ar ôl goroesi’r cyfle, roedd gan Gaint fomentwm gyda Bell-Drummond a Jordan Cox yn mynd o nerth i nerth.

Roedden nhw’n 54 am un pan gafodd Bell-Drummond ei fowlio gan Timm van der Gugten, wrth i’r bêl wyro’n ôl i mewn tuag at y batiwr ac roedd y wiced yn wobr am fowlio cywir yn ystod awr gynta’r dydd.

Ond ar ôl edrych y gyfforddus am rannau helaeth o’r bore, daeth tair wiced o fewn 15 pelawd cyn cinio.

Daeth dwy wiced mewn pelawd gyda’r sgôr 88, pan gafodd Cox ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio’r bowliwr lled gyflym David Lloyd, a hwnnw wedyn yn taro coes Joe Denly o flaen y wiced.

Cwympodd wiced arall lai na thair pelawd yn ddiweddarach, wrth i Jack Leaning gael ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r sgôr erbyn amser cinio’n 97 am bedair.

Un wiced ar ôl y llall

Roedden nhw’n 107 am bump o fewn dim o dro ar ddechrau’r prynhawn, wrth i Hogan daro coes Heino Kuhn o flaen y wiced am wyth, gan adael tynged yr ymwelwyr yn eu batiad cyntaf yn nwylo’r batiwr rhyngwladol Zak Crawley.

Cwympodd y wiced fawr pan wyrodd Timm van der Gugten y bêl i ffwrdd o Crawley, a hwnnw’n taro’r bêl ag ymyl ei fat i Cooke tu ôl y wiced, a’r ymwelwyr yn 120 am chwech cyn i’r glaw ddod a’r golau bylu.

Gyda hindda daeth rhagor o wicedi i Forgannwg, wrth i David Lloyd fowlio Darren Stevens, y batiwr sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 45 oed yr wythnos hon, cyn i Lloyd gymryd chwip o ddaliad yn y slip i waredu Ollie Robinson oddi ar fowlio van der Gugten, a’r ymwelwyr yn 131 am wyth.

Cwympodd y nawfed wiced yn y belawd ganlynol wrth i Lloyd daro coes Fred Klaassen o flaen y wiced, a’r sgôr yn 136 a’r bowliwr wedi cipio’i bedwaredd wiced – ei ffigurau gorau erioed.

Daeth y batiad i ben ar 138 pan darodd Timm van der Gugten goes Matt Milnes o flaen y wiced. Roedd naw wiced wedi cwympo am 50 rhediad mewn llai nag 20 pelawd, felly, a’r bum wiced olaf mewn 6.2 o belawdau.

Dechrau gwael i fatiad Morgannwg

Roedd gan Forgannwg hanner awr i fatio cyn amser te, a naw pelen yn unig gymerodd hi i Gaint gipio’r wiced gyntaf, wrth i Kuhn ddal Joe Cooke yn y slip oddi ar fowlio Stevens, a’r sgôr yn un am un.

Ar ôl anafu ei law cyn dechrau’r gêm, roedd Marnus Labuschagne wedi bod yn edrych yn anghyfforddus wrth y llain ar adegau, ac eithrio ambell ergyd addawol, cyn i Stevens daro’i goes o flaen y wiced, a Morgannwg yn 33 am ddwy.

Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae am yr ail waith yn sgil y glaw yn ystod y sesiwn olaf, ac roedd batwyr Morgannwg yn ymlwybro’n ddi-drafferth am rannau helaeth o’r sesiwn – ac eithrio un cyfle yn y slip i geisio gwaredu Lloyd, a aeth yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 76 o belenni gan daro pum pedwar.

Sgorfwrdd