Mae Manchester City wedi penodi Jayne Ludlow yn Gyfarwyddwr Technegol ar eu hacademi i ferched.

Mae cyn-reolwr tîm cenedlaethol merched Cymru yn ymuno â’r tîm sy’n ail yn Uwchgynghrair y Merched ar hyn o bryd, ar ôl gadael ei swydd fel rheolwr Cymru ym mis Ionawr.

Gadawodd Jayne Ludlow y swydd honno ar ôl saith mlynedd wrth y llyw, a hi oedd y person cyntaf i wneud y gwaith am dros 50 o gemau.

Daeth Cymru’n agos at gymhwyso ar gyfer twrnament rhyngwladol ddwywaith tra’r oedd hi wrth y llyw.

Pan adawodd, dywedodd Jayne Ludlow ei bod yn barod am her newydd ac awgrymodd ei bod yn awyddus i weithio gyda chlwb.

Clwb “ar y lefel uchaf”

Yn gyn-gapten ar Gymru, dywedodd ei bod yn cael cyfle i ddilyn ei hangerdd dros ddatblygu ieuenctid wrth iddi ymuno â chlwb merched Manchester City.

“Mae’n glwb ar y lefel uchaf ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i ddysgu gan bobol wych,” meddai.

“Rwy’n caru gêm y merched yn gyffredinol, rwyf wedi bod yn y gêm ers yr oeddwn yn chwaraewr, ond mae fy angerdd wedi bod gyda datblygiad ieuenctid erioed.

“Gyda phob rôl rwyf wedi’i chael, yn gyntaf gydag Arsenal ac ym mhob rôl ers hynny, gan gynnwys Cymru, mae wedi bod yn rhan o’m rôl.”