Mae Kyle Naughton wedi llofnodi cytundeb newydd gydag Abertawe, fydd yn ei gadw gyda’r clwb tan ddiwedd tymor 2021-22.

Ymunodd yr amddiffynnwr â’r Elyrch o Tottenham Hotspur ym mis Ionawr 2015 am £5m, a bydd nawr yn mynd i mewn i’w wythfed tymor gyda’r clwb.

Mae’r gŵr o Sheffield wedi bod yn rhan bwysig o garfan Steve Cooper y tymor hwn, gan chwarae mewn 32 o gemau hyd yma wrth i’r Elyrch geisio sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r Uwchgynghrair.

Ac mae o wedi chwarae i’r clwb dros 200 o weithiau ers ymuno.

“Rydym yn falch iawn ei fod wedi ymrwymo i flwyddyn arall gyda ni,” meddai Steve Cooper, Prif Hyfforddwr Abertawe.

“Mae e wedi cael tymor gwych hyd yma, ac wedi dangos arweinyddiaeth ar y cae ac oddi arno.

“Mae Kyle wedi dangos ei fod yn chwaraewr amlbwrpas drwy chwarae fel asgellwr cefn ac amddiffynnwr canol, ac mae’n aelod poblogaidd iawn o’r garfan.

“Mae’n uchel ei barch ymhlith ei gyd-chwaraewyr a’r staff.”