Mae un o arwyr cwlt Abertawe wedi rhoi’r ffidil yn y to… 

Mae Àngel Rangel, cyn-gefnwr de tîm pêl-droed Abertawe, wedi ymddeol yn 38 oed, ar ôl deg mis allan gydag anaf i’w ffêr.

Chwaraeodd y Sbaenwr 374 o weithiau i’r Elyrch, gan sgorio deg gôl.

Roedd yn amlwg wrth i Abertawe ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr yn 2011 a mwynhau saith tymor ar y lefel uchaf.