Bydd merched Cymru’n herio Ffrainc, Slofenia, Gwlad Groeg, Kazakhstan ac Estonia yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Menywod FIFA 2023 – sy’n cael eu cynnal yn Awstralia a Seland Newydd.
Nid yw Cymru, sy’n 31ain ar restr detholion y byd, wedi cymhwyso ar gyfer unrhyw dwrnament rhyngwladol hyd yma, a byddan nhw’n gobeithio am lwyddiant yng Nghrŵp I.
Dechreuodd y rheolwr newydd Gemma Grainger ei pharatoadau ar gyfer yr ymgyrch yn gynharach y mis hwn gyda gemau cyfeillgar yn erbyn Canada a Denmarc yng Nghaerdydd.
Colli o 3-0 oedd eu hanes yn erbyn Canada ond roedd tîm Grainger yn llawn haeddu’r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Denmarc dridiau yn ddiweddarach – gyda Jess Fishlock yn sgorio gôl wych.
We can't stop watching this ?
Take a bow @JessFishlock #BeFootball | #TogetherStronger pic.twitter.com/mAw929hN9H
— Wales ??????? (@Cymru) April 13, 2021
Roedd yn wersyll cyntaf llwyddiannus i Grainger ar y cyfan ac mae uchelgais amlwg o fewn y grŵp i gyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf.
“Byddwn yn taflu fy ngyrfa gyfan yn y bin pe bai’n golygu y gallwn fynd i bencampwriaeth fawr gyda’m gwlad,” esboniodd y capten Jess Fishlock cyn y gêm yn erbyn Canada.
“Dyna pam dw i dal yma.”
??????? Y TAITH I AWSTRALIA A SELAND NEWYDD
Our @FIFAWWC qualifying round group…
?? France
??????? Cymru
?? Slovenia
?? Greece
?? Kazakhstan
?? Estonia#BeFootball | #TogetherStronger pic.twitter.com/aPVzaE9mV8— Wales ??????? (@Cymru) April 30, 2021
Y fformat
Bydd y naw enillydd grŵp yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol tra bydd y naw a fydd yn ail yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle a fydd yn digwydd ym mis Hydref 2022, gyda dau dîm arall yn symud ymlaen yn uniongyrchol i’r rowndiau terfynol drwy’r llwybr hwnnw.
Yna bydd trydydd tîm o gemau ail-gyfle UEFA yn cystadlu yn y gemau rhyng-ffederasiwn, a fydd yn bencampwriaeth o ddeg tîm o’r chwe ffederasiwn FIFA i benderfynu ar y tri lle sy’n weddill.
Bydd Awstralia a Seland Newydd yn cymhwyso’n awtomatig fel gwesteiwyr.
Mae Cymru’n wynebu tasg anodd gyda Ffrainc yn eu grŵp, a gyrhaeddodd y rownd gogynderfynol y ddau dwrnament rhyngwladol ddiwethaf.
Ond mae Cymru wedi gwella’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda llawer o’r tîm bellach yn chwarae i glybiau yn Uwchgynghrair y Merched yn Lloegr – un o’r cynghreiriau mwyaf cystadleuol yn y byd.
Ar ben hynny mae Gemma Grainger am eu gwneud yn dîm mwy ymosodol, er mwyn cyflawni’r nod o gyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf erioed.
Grwpiau Cymhwyso Cwpan y Byd 2023
Grŵp A: Sweden, Y Ffindir, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Iwerddon, Slofacia, Georgia
Grŵp B: Sbaen, Yr Alban, Wcráin, Hwngari, Ynysoedd Faroe
Grŵp C: Iseldiroedd, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Tsiec, Belarws, Cyprus
Grŵp D: Lloegr, Awstria, Gogledd Iwerddon, Gogledd Macedonia, Latvia, Luxembourg
Grŵp E: Denmarc, Rwsia, Bosnia a Herzegovina, Azerbaijan, Malta, Montenegro
Grŵp F: Norwy, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Albania, Kosovo, Armenia
Grŵp G: Yr Eidal, y Swistir, Romania, Croatia, Moldova, Lithwania
Grŵp H: Yr Almaen, Portiwgal, Serbia, Israel, Twrci, Bwlgaria
Grŵp I: Ffrainc, Cymru, Slofenia, Gwlad Groeg, Kazakhstan, Estonia